Mae Rajan Madhok yn dod o India yn wreiddiol a bellach yn byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd. Roedd Rajan yn feddyg ond wedi ymddeol rŵan. Mae Rajan wedi sefydlu RICE (Cysylltiadau Diwylliannol Rhuthun India). Mae cysylltiad hir rhwng Cymru ac India. Bwriad RICE ydy hyrwyddo diwylliant a thraddodiadau’r ddwy wlad. Yma, mae Rajan yn son am daith i Shillong yng ngogledd ddwyrain India i hyrwyddo prosiect cyfnewid cerddoriaeth rhwng India a Chymru. Aeth yno gyda thair telynores – Nia Davies Williams, Catrin Morris Jones a Gwenan Mair Gibbard, a’r arlunydd tecstilau Cefyn Burgess. Yma mae Rajan yn ateb cwestiynau am y prosiect a’u profiadau yn ystod y daith…
Rajan, beth ydy’r prosiect?
Mae ’na gysylltiad hir rhwng gogledd ddwyrain India a Chymru. Mae’r cysylltiad rhwng pobl y ‘Casi‘ a Chymru yn mynd yn ôl canrifoedd ers pan aeth y Parchedig Thomas Jones yno yn 1840au. Fo oedd y cenhadwr Presbyteraidd cynta’ i ymweld â’r lle.
Ers hynny mae ’na gyfnewidiau arbennig wedi bod drwy’r eglwys Bresbyteraidd. Pan symudes i ogledd Cymru saith mlynedd yn ôl ro’n i wedi dechrau prosiect Cysylltiadau Diwylliannol Rhuthun-India i ddathlu’r cysylltiadau.
Roedd Cefyn Burgess a fi hefyd eisiau deall mwy am y cysylltiad efo gogledd ddwyrain India yn arbennig.
Tair blynedd yn ôl, roedd Cefyn Burgess wedi penderfynu ymweld â’r ardal i ddysgu mwy am y cysylltiad hwn. Roedd o’n cofio casglu arian yn ei ysgol Sul pan oedd o’n blentyn ym Methesda yn 1960au. Cafodd ysgolion blychau bach i gasglu arian ac wedyn cafodd yr arian ei anfon i’r plant dramor.
Pan wnaeth Cefyn son wrth ei ffrind, Mair Jones, y delynores adnabyddus, am ei brofiad yn India, roedd hi eisiau dechrau prosiect i hyrwyddo cyfnewid cerddoriaeth.
Yn anffodus, roedd Mair Jones wedi marw yn ystod y cyfnod Covid yn 2021. Wedyn roedd Cefyn a fi wedi dechrau prosiect efo help gan Ganolfan Gerdd William Mathias (CGWM), Caernarfon a Phrifysgol Martin Luther (MLCU), yn Shillong. Y bwriad oedd dysgu’r bobl ifanc yno i ganu’r delyn. Roedd ffrindiau Mair Jones wedi rhoi arian i helpu gyda’r prosiect. Rŵan mae Ysgoloriaeth Mair Jones yn darparu gwersi telyn i fyfyrwyr ar zoom.
Beth wnaethoch chi yn ystod y wibdaith?
Roedden ni wedi bod yno o’r blaen ond roedd y wibdaith yma yn arbennig achos dyma’r flwyddyn lle’r oedd ffocws ar Cymru-India. Mae ’na lawer o weithgareddau yn digwydd yn India. Aeth tair telynores o Gymru i Shillong i barhau i ddysgu’r myfyrwyr – dan ni wedi gorffen y cwrs cynta’ ble’r oedd pump o bobl ifanc wedi dysgu canu’r delyn. Rŵan dan ni eisiau dechrau grŵp newydd.
Yn ogystal ag addysg, roedd y telynoresau yn perfformio mewn dwy ŵyl – Gŵyl Tri-Hills a Gŵyl Lenyddiaeth Shillong. Mae diddordeb gyda ni mewn defnyddio cerddoriaeth i helpu pobl sy’n sâl. Felly roedd y myfyrwyr a Nia, Catrin a Gwenan wedi perfformio mewn ysbytai ac ysgolion. Roedd ymweld â’r cleifion a phlant ysgol yn ddiddorol iawn, roedden nhw erioed wedi gweld telyn o’r blaen ac roedden nhw wedi mwynhau’r gerddoriaeth.
Roedd sesiynau anffurfiol hefyd – roedd llawer o bobl wedi mwynhau’r noson lawen a hefyd swper swyddogol ble’r oedd y telynoresau yn ymuno efo cerddorion lleol – roedden nhw’n gorfod canu am eu swper!
Dw i ddim yn gerddor yn anffodus, ac mi es i fel Ymddiriedolwr Canolfan Gerdd William Mathias. Ro’n i wedi dysgu myfyrwyr Sefydliad Iechyd Cyhoeddus India.
Hefyd, ro’n i wedi cyfarfod adran y brifysgol (MLCU) i drafod cynllun ar gyfer y dyfodol i ddatblygu cyrsiau am iechyd a chelf.
Mae Cefyn yn gweithio ar ei arddangosfa nesaf ac yn trefnu bod pobl o Shillong yn dod i Gymru i ymweld ag Aberriw yn Sir Drefaldwyn lle cafodd Thomas Jones ei eni.
Be nesaf?
Dan ni’n ddiolchgar i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru am eu help efo’r prosiect fel rhan o flwyddyn Cymru yn India Llywodraeth Cymru. Dan ni eisiau adeiladu ar hyn a dechrau prosiect newydd, arbennig am iechyd a chelf.