Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn bob mis i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n sôn am y tai sydd wedi diflannu neu fynd yn adfail dros y blynyddoedd…
Mae cefn gwlad Cymru wedi gweld llawer o newid dros y canrifoedd. Un o’r newidiadau mwyaf amlwg i ni heddiw, efallai, yw diboblogi. Mae diboblogi wedi gadael ei ôl ar y dirwedd. Mae wedi gadael ardaloedd gwledig yn frith o adfeilion tai a oedd unwaith yn gartrefi.
Roedd gan bob un enw wrth gwrs. Weithiau mae’r enwau’n ymddangos ar y map o hyd, fel yn achos Buarth-brwynog a Hafod-y-gareg yn yr ucheldir uwchben Trawsfynydd.
Wedyn mae llefydd fel ‘Criafolen’ ym mhlwyf Llanuwchllyn. Roedd y tŷ’n adfail erbyn iddo ymddangos ar fap OS 1900, ond mae ‘Waen y Griafolen’, yr ardal i’r dwyrain o’r tŷ a ‘Cefn y Griafolen’ i’r gorllewin, yn cofio enw’r tŷ.
Weithiau dim ond enwau tirweddol sydd ar ôl i ddangos bod tŷ wedi sefyll yn yr ardal. Uwchben Abertafol ar y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberdyfi mae dau gae, o’r enwau ‘Cae tyddyn gwenyn isa’ a ‘Cae tyddyn gwenyn ucha’. Y ffermydd cyfagos yw ‘Tafolgraig’ ac ‘Abergroes’, does dim sôn am ‘Dyddyn Gwenyn’. Os ewch chi yn ôl at fap 1900 yr Arolwg Ordnans, does dim hyd yn oed adfeilion tŷ i’w gweld.
Os ewch chi bellach yn ôl at y map degwm o’r 1840au, mae enwau’r caeau’n ymddangos, ond does dim tŷ. Mae hynny’n golygu bod y tŷ wedi diflannu’n ddigon pell cyn 1840 nad oedd unrhyw ran ohono ar ôl erbyn llunio’r map. Yr unig dystiolaeth o’i fodolaeth yw enwau’r caeau. Dyw hi ddim yn glir pryd yn union cafodd y tŷ ei adael. Mae’r enwau’n dweud wrthon ni mai cynhyrchu mêl oedd bywoliaeth y bobl oedd yn byw yno ar un adeg. Ond tan i ni ddod o hyd i fap ystâd, neu gofnod ysgrifenedig yn rhywle, fydd dim modd gwybod mwy.
Dim dyna’r unig enghraifft o enw tŷ diflanedig, sydd angen ychydig o waith ditectif i ddod o hyd iddo. Rhwng 1604 a 1775 roedd ‘Tŷ Bach’ yn sefyll yn rhywle ym mhlwyf Llanfihangel Genau’r Glyn yng Ngheredigion – ond ble? Dyw’r enw ddim yn amlwg ar y map modern, map 1900 neu’r mapiau Degwm. Ond des i o hyd i enw cae o 1840, sef ‘Cefen tŷ bach’. Mae’r cae yn y plwyf cywir, ac ym 1900 roedd llwybr troed yn rhedeg ar ei ochr i lawr at bentref Talybont. Ar gornel y cae mae troad yn y terfyn, ac felly yn y llwybr, fel y byddech chi’n disgwyl gweld petai tŷ’n sefyll yno. Ai dyma leoliad ‘Tŷ Bach’ felly?
Tua’r un adeg mae’r enw ‘Lletty y Mab Coch’ yn cael ei gofnodi yn y plwyf. Dw i ddim wedi llwyddo hyd yn hyn i ddarganfod ble oedd hynny. Ond eto, efallai gall y mapiau degwm daflu rhywfaint o oleuni ar ei leoliad. Ger fferm Werndeg uwchben Talybont i’r dwyrain, mae’r Degwm yn cofnodi cae o’r enw ‘Lletty gochen’.
Mae’r enw’n ddigon agos at ‘Lletty y Mab Coch’, ond ddim yn ddigon agos i ni fod yn ddigon hyderus i ddweud yn sicr.
Fe fydda’i yn yr ardal ddiwedd y mis hwn, yn siarad â’r Gymdeithas Hanes leol, felly efallai caf i ateb i’r cwestiwn!