Dach chi’n hoffi darllen? Dach chi’n hoffi siarad am lyfrau a chael syniadau newydd? Beth am ymuno â Chlwb Darllen Gŵyl Amdani ym mis Mawrth? Helen Prosser ydy Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yma mae hi’n dweud mwy am y Clwb Darllen…
Helen, beth ydy’r clwb darllen?
Bob blwyddyn, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn cynnal Gŵyl Ddarllen o’r enw Gŵyl Amdani – gŵyl ar-lein ydy hi yn bennaf. ‘Dyn ni’n cynnal yr Ŵyl yn ystod yr un wythnos â Diwrnod y Llyfr Cymru. Fel rhan o’r Ŵyl mae:
- Cystadleuaeth i ddysgwyr Mynediad i ysgrifennu adolygiad o lyfr Amdani
- Sesiwn ar farddoniaeth ar gyfer lefelau Uwch a Gloywi
- Eitemau am lyfrau ar dysgucymraeg.Cymru
- Lansio llyfr newydd gan Sketchy Welsh yng nghwmni dosbarthiadau Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae’r Ŵyl eleni rhwng 3 a 7 Mawrth. Ar nos Fercher, 5 Mawrth bydd Clwb Darllen.
Bydd pobl yn mynd i bum grŵp gwahanol i gwrdd ag awduron i ddod i adnabod yr awduron yma’n well ac i siarad am lyfrau. Bydd aelod o staff Dysgu Cymraeg yn gofyn y cwestiynau.
Pa fath o lyfrau fydd yn cael eu trafod?
Bydd grwpiau Mynediad i Uwch yn trafod llyfrau o gyfres Amdani ond bydd y grŵp gloywi yn trafod y llyfr enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2024.
Pwy yw’r awduron sy’n cymryd rhan?
Mynediad Pegi Talfryn Rhywun yn y Tŷ?
Sylfaen Siôn Tomos Owen Y Fawr a’r Fach (1 a 2)
Canolradd Jon Gower Teithio drwy Hanes
Uwch Sarah Reynolds Cyffesion Saesnes yng Nghymru
Gloywi Mari George Sut i Ddofi Corryn
Pa mor aml fydd y clybiau darllen yn cael eu cynnal?
Mae llawer o glybiau darllen yn cyfarfod bob wythnos ond mae’r Clwb Darllen Cenedlaethol yn cyfarfod unwaith y flwyddyn – yn ystod Gŵyl Amdani.
Oes rhaid darllen llyfr cyn cymryd rhan neu ydy hyn yn ffordd o gael syniadau am lyfrau?
Bydd yn llawer gwell os byddwch chi wedi darllen y llyfr cyn dod i’r sesiwn.
Sut ydw i’n cofrestru?
Ewch i Gŵyl Ddarllen Amdani | Dysgu Cymraeg i gofrestru. Byddwch chi’n cael y ddolen Zoom ddydd Mawrth, 4 Mawrth.