Dach chi eisiau darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Ydy dod o hyd i amser i chi’ch hunan yn brin? Dach chi eisiau her dros yr hydref? Os dach chi, ymunwch â Her yr Hydref!

Os ydy’n anodd cael hyd i amser i ymlacio, neu os dach chi eisiau darllen mwy ond bod amser yn brin, mae Her yr Hydref yn ffordd wych o ddechrau.

Mae’r her yn eich annog i ddarllen un llyfr Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref. Mae Stori Sydyn yn gyfres arbennig o lyfrau byrion gan awduron poblogaidd. Maen nhw’n cynnig y cyfle perffaith i bori mewn llyfr – hyd yn oed os mai dim ond ychydig o funudau bob dydd sydd gennych.

Mae nifer o lyfrau Stori Sydyn o bob math ar gael yn y Gymraeg, rhai ffuglen a ffeithiol, gan awduron fel Fflur Dafydd, Dylan Ebenezer a Manon Steffan Ros. Gyda’r llyfrau yn costio £1 yr un, a tua 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned. Mae teitlau newydd yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn fel rhan o’r cynllun. Eleni, mae dau lyfr newydd yn y Gymraeg wedi cael eu cyhoeddi gan y Lolfa:

Deffro’r Ddraig – Rygbi Cymru 1998–2024 gan Seimon Williams. Llyfr am rygbi Cymru yn yr oes broffesiynol sy’n edrych ar y gemau mawr, y prif gymeriadau a rhai o straeon pwysicaf y gamp dros y chwarter canrif diwethaf. Daw’r stori i ben drwy edrych ar y garfan ifanc, a thaith yr haf i Awstralia yn 2024.

Tywyllwch y Fflamau gan Alun Davies. Mae’n rhaid i’r Ditectif Bedwyr Campell gamu’n ôl i’r gorffennol ar ôl i lun gwerthfawr ddod i’r amlwg. Mae’r llun o ferch ifanc yn cael ei llosgi ar goelcerth. Mae’r llun yn gysylltiedig â llofruddiaeth casglwr celf yn ardal Aberystwyth ddeg mlynedd ynghynt. A fydd y Ditectif Campell yn llwyddo i ddod o hyd i’r lleidr a’r llofrudd?

‘Cyfle i fwynhau llyfr gwych’

Helgard Krause ydy Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Mae hi’n dweud: “Rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd gall hi fod i gael awr neu ddwy i ymlacio ac ymgolli mewn llyfr da. Y peth gorau am gyfres Stori Sydyn ydy’r ffaith bod y llyfrau wedi’u hysgrifennu ar gyfer pobl brysur, felly gallwch chi fwynhau llyfr gwych gan awdur arbennig mewn ychydig o sesiynau byr. Mae Sialens Her yr Hydref yn ffordd hawdd i neilltuo amser i ddarllen bob wythnos, ac efallai byddwch chi’n darganfod eich hoff awdur nesaf ar yr un pryd!”

‘Annog dysgwyr’

I ddarllenwyr sydd wedi mwynhau cyfres Amdani i ddysgwyr, mae llyfrau Stori Sydyn yn gam naturiol tuag at ddarllen llyfrau hirach.

Helen Prosser ydy Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae hi’n dweud: “Mae’r Ganolfan yn falch iawn o gefnogi Her yr Hydref. Mae llyfrau cwrs a llyfrau darllen hamdden i ddysgwyr yn bwysig iawn i ddatblygu sgiliau dysgu Cymraeg, ond hefyd yn bwysig i’r diwydiant cyhoeddi a gwerthu llyfrau. Byddwn ni’n annog ein dysgwyr sy’n ddarllenwyr brwd i ymuno yn hwyl ymgyrch Her yr Hydref.”

Cafodd rhaglen Stori Sydyn (Quick Reads) ei datblygu gan y Reading Agency. Mae’n cael ei chydlynu yng Nghymru gan y Cyngor Llyfrau, gydag arian gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid yn cefnogi cyhoeddi llyfrau Stori Sydyn/Quick Reads o Gymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg, bob blwyddyn.

Dach chi’n gallu dilyn Her yr Hydref ar Instagram @llyfrau.cymru o 1-31 Hydref 2024.

Mae rhestr o lyfrau Stori Sydyn diweddar ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau llyfrau.cymru