Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn yn y byd llyfrau – ac un o’m hoff adegau o’r flwyddyn fel rhywun sy’n caru llyfrau. Mae rhestr fer Tir na n-Og wedi cael ei chyhoeddi!

Mae pawb sy’n caru darllen – yn enwedig llyfrau o Gymru – wedi cael eu sbwylio dros yr wythnosau diwethaf, efo dathliadau Diwrnod y Llyfr, Gŵyl Amdani, a chyhoeddiad rhestr fer gwobrau mawreddog Tir na n-Og. Dw i wrth fy modd!

Gwobrau Tir na n-Og, i’r rhai ohonoch chi sydd efallai ddim yn gyfarwydd, yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u math yng Nghymru. Felly mae bob tro yn adeg gyffrous iawn o’r flwyddyn i weld cyhoeddiad y rhestr fer a’r cyfle i ddarganfod awduron neu lyfrau newydd.

Mae gwobrau Tir na n-Og yn agos iawn at fy nghalon – ro’n i’n lwcus iawn i fod ar y panel beirniaid yn 2022/23 – ac mae mor gyffrous i weld y llyfrau sydd ar y rhestr fer eleni.

Mae’r rhestr yn cynnwys amrywiaeth o themâu a fformatau: fel llyfrau stori i blant ifanc a nofelau i bobol ifanc. Felly mae yna rywbeth at ddant pawb. Ac anrhegion perffaith i’m nai bach, Leo Antonio, sy’n 4 oed, ac sydd wedi dechrau gofyn i mi yn ddiweddar: “Zia, oes gen ti lyfr i fi?” Siocled oedd y trît bach ro’n i’n arfer cynnig, ond dim cwynion genna’i os oes yn well ganddo lyfr!

Mae’r rhestr fer i’r wobr ryngwladol Booker (International Booker Prize) hefyd wedi cael ei chyhoeddi wythnos ddiwethaf, ac yn rhestr arall sydd bob tro’n gyffrous i mi. Mae’r rhestr hon yn dathlu awduron a chyfieithwyr ar draws y byd ac yn gyfle arbennig i ddod o hyd i straeon o wledydd gwahanol. Ro’n i mor hapus i weld dau deitl o’r Eidal ar y rhestr fer eleni. Cyfle bach braf i ddianc i Rufain a Napoli – hyd yn oed os yw hynny dim ond rhwng cloriau llyfrau.

Dechreuais un o’r llyfrau – Lost on Me gan Veronica Raimo – dros y penwythnos a dw i ddim wedi gallu ei rhoi i lawr. Dechreuad da o’m taith ddarllen dros yr wythnosau a misoedd nesaf gobeithio. A’r pentwr o lyfrau sydd genna’i o ganlyniad i’r holl gyhoeddiadau cyffrous (wnes i sôn am y Women’s Prize for Fiction hefyd?!)

Felly digon o ddarllen i gadw fi’n ddistaw am ychydig, ac esgus gwych i ymweld â’r siop lyfrau leol – nid fel bod angen esgus, wrth gwrs!