Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n edrych ar y gwahanol enwau am ‘lwybr’ yn Gymraeg…
Peth braf yw mynd am dro yn y wlad, yn dilyn hen lwybrau troed, sydd efallai’n mynd yn ôl ganrifoedd. Peth braf arall am fynd am dro yng Nghymru yw bod gan bob llwybr enw. Ond cyn dechrau sôn am enwau llwybrau unigol, wyddoch chi fod sawl gair gwahanol ar lwybr yn Gymraeg, yn dibynnu ar ble ydych chi?
Feidir yw’r gair cyffredin yn Sir Benfro, a de Ceredigion, sy’n golygu ffordd fechan, yn aml iawn un sy’n arwain at fferm. Mae’n hen air, yn gytras â’r Wyddeleg bóthar. Mae’r gair i’w weld mewn ambell enw cae hefyd, yn cyfeirio at eu lleoliad, fel Parc Penfeidir yn Eglwyswrw, neu Danfeidir yn Nhrewyddel.
Wtra yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio yn Sir Drefaldwyn, o bosib yn deillio o’r Saesneg outrake, sy’n golygu tramwyfa ar gyfer defaid. Enw’r rhan o’r A493 rhwng Pennal a Chwrt ar lan gogleddol Afon Dyfi yw Wtra’r Beddau. Cafodd ei enwi, yn ôl y traddodiad lleol, oherwydd i’r ffordd gael ei phalmantu â beddau’r rhai a laddwyd mewn brwydr yma yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Mae’n amlwg bod y gair yn gallu cael ei ddefnyddio mewn ffordd drosiadol hefyd, oherwydd ychydig i’r de o Wtra’r Beddau, cawn Wtra’r Felin yn enw ar yr hen gafn melin oedd yn rhoi pŵer i Felin y Parsel gerllaw.
Enwau’n hawdd i’w colli
Ychydig iawn o enwau meidiroedd neu wtregydd sy’n ymddangos ar fapiau swyddogol; fel arfer maen nhw’n aros yng nghof y bobl leol. Yn anffodus mae hyn yn golygu bod yr enwau’n hawdd i’w colli, wrth i bobl newydd symud i mewn. Rwy’n cofio mam ffrind i mi’n cwyno ei bod hi wedi clywed cymydog newydd yn cyfeirio at y Feidir Werdd ger Caerfarchell yn Sir Benfro, fel ‘Bat Alley.’ Rydyn ni yn y Comisiwn Brenhinol yn awyddus iawn i gofnodi enwau llwybrau’r wlad, i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu colli, felly os oes llwybr neu lôn fach yn eich ardal chi, ewch ati i ddarganfod yr enw, defnyddiwch o, ac anfonwch o mewn aton ni yma:
Cyn cloi, mae’n werth nodi bod enwau llwybrau, fel pob math arall o enwau lleoedd, yn gallu ein hatgoffa ni o ddiwydiannau a ffyrdd o fyw sydd wedi diflannu. Mae Llwybr y Meinors ym mhlwyf Penegoes yn Sir Drefaldwyn yn cofio’r mwyngloddiau yn Ffridd Rhos y Garreg ar bwys Glaslyn, ger yr heol fynyddig rhwng Machynlleth a Llanidloes. Ardal amaethyddol yw hi nawr, ac ychydig iawn o bobl sy’n troedio’r hen lwybr.