Yn fy ngholofn y tro yma, mi fydda’i yn trio fy ngorau i berswadio chi i ddarganfod byd un o’r bandiau mwyaf dylanwadol o Gymru, Datblygu.
Mae Datblygu yn fand sy’n agos iawn at fy nghalon am sawl rheswm. Roedd darganfod eu cerddoriaeth nhw yn drobwynt ar fy nhaith i ddysgu Cymraeg, heb os. Wna’i fyth anghofio’r tro cyntaf i mi eu clywed, a’r gân eiconig wnaeth wneud i mi isio dod o hyd i bob record Datblygu oedd ar gael ac allan yn y byd: Casserole Efeilliaid.
Ond nid y gân yma dw i’n awgrymu fel trac i chi y tro yma. Mae bendant yn un sentimental ac arbennig iawn gan mai dyma oedd y gân gyntaf i fi ei chlywed ganddyn nhw. Dwi isio awgrymu trac o’r enw Nofel o’r Hofel. I fi, mae’n gampwaith o gân!
Mae’r gân yn rhan o albwm Pyst gafodd ei rhyddhau yn 1990. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel albwm ‘arbrofol’ – yn debyg i’r grŵp ei hun yn gyffredinol. Mae’r albwm bellach wedi cael ei ail-gyhoeddi. Ro’n i mor gyffrous i ddysgu mai label yn yr Eidal sydd wedi gwneud hyn. Ac ar ben hynny, dwi wedi dod i ddallt bod gan y band llawer o ddilynwyr yn yr Eidal hefyd. Mae’n braf gwybod nid fi ydy’r unig Eidales sy’n caru Datblygu!
Ond mwy am y gân! Ro’n i wedi cael fy nhynnu ati yn syth wrth weld yr enw. Ac wrth wrando, dan ni’n dod i ddallt ei hystyr wrth i lais Dave – prif leisydd a ‘front man’ y band – fynd ar siwrne nôl ac ymlaen i fanc poteli yn Aberhonddu. I fi, mae’r gân yn mynd â ni ar daith, ac yn adrodd stori. Ac ar ôl gwrando arni ddwy neu dair gwaith, sylwais sut ro’n i’n gallu dilyn a dallt llawer o’r geiriau – rhywbeth sy’n teimlo fel llwyddiant mawr pan ti’n dysgu iaith newydd!
Ges i gyfle i drafod hyn efo fy ffrind a chyd-gyflwynydd y gyfres Y Sîn, Joe Healy. Yn ystod ail bennod y gyfres, dan ni’n trafod cloriau recordiau sy’n aros yn y cof ac effaith cerddoriaeth Cymraeg ar ein profiadau o ddysgu. Pan gyrhaeddon ni i ffilmio’r diwrnod hwnnw, efo pentwr o recordiau posib i drafod, roedd y ddau ohonon ni’n byrstio i sôn am Datblygu. Mae’r band wedi chwarae rôl fawr i’r ddau ohonon ni wrth ddod o hyd i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.
I mi, mae Datblygu yn fand sy’n hanfodol i unrhyw un sydd isio dallt mwy am hanes Cymru, cerddoriaeth Gymraeg a’r iaith. A dros y blynyddoedd, dw i wedi cyfarfod ambell siaradwr newydd arall sydd wedi cael profiad tebyg iawn.
Felly beth sy’n gwneud i siaradwyr newydd a gydol oes garu Datblygu? Yr unig ateb alla’i gynnig yw: ewch ati i wrando arnyn nhw a bydd popeth yn glir!