Mae’r Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Dyma’r cyntaf mewn colofn fisol lle fydd James January-McCann yn siarad am hanes enw un lle arbennig. Y tro yma mae’n edrych ar enw Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn


Rydyn ni gyd yn gwybod bod enwau lleoedd yn gallu symud weithiau. Mae hyn yn digwydd i enwau tai fel arfer; os mae hen dŷ’n cael ei adael, a thŷ newydd yn cael ei adeiladu wrth ymyl, yn aml iawn mae enw’r hen dŷ yn cael ei drosglwyddo i’r tŷ newydd. Neu mae enwau caeau’n symud o gwmpas wrth i ddefnydd y caeau newid.

Ond mae’n anarferol iawn i enw pentref symud. Dyna beth ddigwyddodd yn achos Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn.

Fel arfer, yn achos enwau lleoedd sy’n cynnwys enw sant, y llan sydd wedi’i chysegru i’r sant, fel Llanrwst, sydd wedi’i enwi ar ôl eglwys Santes Grwst. Mae Llandeilo Fawr wedi’i enwi ar ôl eglwys Sant Teilo. Yn achos Llanbrynmair, y bryn sydd wedi’i gysegru i’r Forwyn Fair.

Gallwn ni gymharu hyn gydag enw Llanfair ar y bryn yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft. Yma mae’r llan wedi’i chysegru i Fair, ac mae hi jyst yn digwydd sefyll ar fryn.

Ffurf gynharaf yr enw sydd gennym ar hyn o bryd yw Brenmeyr, yn 1254. Dych chi’n sylwi mai’r bryn, dim y llan, sy’n cael ei enwi. Brunmeyr oedd y ffurf yn 1293, ac mae’r beirdd wedi ei gofnodi mewn ambell ffurf ar hyd yr oesoedd canol.

Roedd y ffurf Llanbryn-mair wedi ymddangos yng ngwaith y bardd Siôn Ceri yn ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg. Bryd hynny, roedd y pentref tua hanner ffordd i fyny Cwm Twymyn, fel y gwelwch chi ar y map isod, o 1900.

Llan (Llanbrynmair)

 

Ond bydd pawb sy’n gyfarwydd â’r ardal yn gwybod mai dyna le saif pentref Llan heddiw. Mae Llanbrynmair yn bellach i lawr y cwm, ar yr A470, lle mae Afon Iaen yn rhedeg i Afon Twymyn.

 

 

 

 

 

 

 

Llanbrynmair modern

Felly beth sy’n gyfrifol am wneud i’r enw symud? Mae eglwys y Forwyn Fair yn sefyll ym mhentref Llan hyd heddiw, ac mae’n amlwg nad yw’r bryn wedi symud. Cafodd eglwys ei chodi yn safle presennol pentref Llanbrynmair, ond roedd hi wedi’i chysegru i Sant Ioan. Yn 1841 doedd dim llawer yn safle presennol y pentref – dim ond tafarn y Wynnstay Arms, wedi’i adeiladu ar y ffordd dyrpeg. Ond yn 1861 daeth y rheilffordd i’r ardal, a chafodd gorsaf ei adeiladu i wasanaethu’r pentref. Oherwydd tirwedd yr ardal, doedd hi ddim yn bosibl mynd â’r lein yn agosach at y pentref, felly dyma adeiladu gorsaf drenau Llanbrynmair yn y bwlch lle’r oedd y ffordd fawr. O dipyn i beth, roedd pentref wedi datblygu o gwmpas yr orsaf a’r dafarn. Cafodd y lle hwnnw ei alw yn Llanbrynmair ar ôl yr orsaf, tra bod enw’r hen bentref gyda’r llan a’r bryn, wedi newid i Llan.

Llan (modern)

Os ydych chi’n ymddiddori yn enwau lleoedd, ac eisiau darganfod mwy, edrychwch ar wefan enwau lleoedd hanesyddol y Comisiwn Brenhinol: https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/