Dyma stori fer gan Irram Irshad. Mae Irram yn fferyllydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac wedi cyhoeddi llyfr o straeon arswyd a llyfr barddoniaeth. Mae hi hefyd yn ysgrifennu colofnau i Lingo360. Mae Y Ddol yn stori arswyd…
Doedd Eldrydd ddim yn gallu credu ei llygaid wrth iddi droi‘r ddol drosodd yn ei dwylo. Roedd hi’n union fel yr un roedd ei chwaer, Eleri, wedi ei chael pan oedd hi’n blentyn.
Edrychodd Eldrydd ar y llygaid gwydr glas llachar, y bochau coch, y gwallt brown cyrliog, y dwylo bach, a’r ffrog gotwm. Tybed os oedd hon yr un ddol oedd gan Eleri? Roedd ei rhieni wedi rhoi ei theganau i gyd i’r hosbis plant lleol lle’r oedd Eleri wedi treulio ei dyddiau olaf. Dros amser gallai’r ddol fod wedi gwneud ei ffordd i mewn i’r siop fach, orlawn, yma mewn lôn gul oddi ar y stryd fawr.
Cofiodd Eldrydd sut roedd Eleri wedi caru‘r ddol yn fwy na dim byd arall. Roedd hi wedi ei henwi hi’n Annie ac yn mynd â hi i bobman gyda hi. Bob nos roedd hi’n mynd â’r ddol i’r gwely efo hi. Bu’n rhaid i’r nyrsys yn yr hosbis godi Annie allan o ddwylo oer Eleri.
Roedd perchennog y siop wedi bod yn amyneddgar tra bod Eldrydd wedi bod yn edrych ar y ddol. Erbyn hyn roedd yn bryderus wrth iddo weld dagrau‘n llifo i lawr ei hwyneb. “Dych chi’n iawn?” gofynnodd.
Edrychodd Eldrydd i fyny‘n sydyn, gan sychu‘r dagrau o’i bochau. “Ydw, mae popeth yn iawn. Wna’i gymryd hon os gwelwch yn dda, faint yw hi?”
Rhoddodd £20 iddo yn gyflym, rhoi’r ddol yn ei bag siopa, oedd nawr yn llawn anrhegion Nadolig, a rhedeg allan o’r siop.
Doedd hi ddim yn gallu cofio gyrru adref, roedd ei phen yn llawn atgofion am ei chwaer fach – yn chwerthin, dawnsio, canu, ei hanadl olaf. Roedd lewcemia wedi cymryd ei chwaer a dinistrio eu teulu. Doedd hi ddim yn gwybod pam roedd hi wedi prynu’r ddol, efallai i deimlo’n agosach at ei chwaer. Roedd hi’n gweld ei heisiau’n fwy, nid llai, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio.
Roedd Eldrydd wedi rhoi’r ddol ar gadair freichiauyng nghornel ei hystafell wely. “Croeso adref Annie,” meddai. Dringodd i’r gwely ac, wrth iddi syrthio i gysgu, roedd hi’n ymwybodol iawn o’r ddol yn troi ei phen i edrych arni.
*********************************************************************************************************
“Eli, Eli, deffra a chwarae gyda fi!” gwaeddodd llais uchel yn ei chlust. Roedd Eldrydd wedi deffro‘n sydyn, ei chalon yn rasio. Roedd hi’n credu ei bod wedi clywed llais cyfarwydd. Wrth iddi dawelu, ceisiodd gofio ei breuddwyd ond roedd wedi diflannu o’r cof. Trodd y lamp ymlaen wrth ochr y gwely, ac yfed ychydig o ddŵr o’r gwydr ar y bwrdd, yna gorweddodd yn ôl i lawr i geisio mynd yn ôl i gysgu.
“Eli, chwarae gyda fi!”
Eisteddodd Eldrydd yn syth i fyny, ei chalon yn curo. Roedd hi’n gwybod pam fod y llais yn gyfarwydd – llais ei chwaer roedd hi’n clywed.
“E-Eleri?” sibrydodd.
“Eli, ble’r oeddet ti? Dw i wedi bod yn aros mor hir amdanat ti!”
Roedd y llais yn swnio fel ei fod yn dod o’r gornel lle’r oedd y gadair freichiau… o’r ddol.
Edrychodd Eldrydd ar Annie a chwerthin am ei hurtrwydd ei hun. Dychmygwch feddwl bod dol yn gallu siarad?
Stopiodd Eldrydd â chwerthin wrth i’r ddol droi ei phen tuag ati a dweud: “Eli, wnei di godi fi?”
Roedd Eldrydd wedi dal ei hanadl, gan feddwl ei bod hi’n mynd yn wallgof. Roedd y ddol wedi codi ei breichiau.
“Plîs Eli, dw i’n oer yma, dw i eisiau bod yn y gwely gyda ti.”
Roedd gan y llais yr un naws felodig â llais ei chwaer. Roedd hi bob amser yn ei galw’n Eli gan ei bod hi ddim yn gallu dweud ei henw yn iawn.
“Eleri, ai ti sy’ ‘na?” meddai Eldrydd.
“Ie, wrth gwrs – paid â bod yn wirion! Wyt ti ddim yn cofio fi?”
Dechreuodd Eldrydd grio. “Wrth gwrs, dw i’n cofio ti,” meddai, “fyswn i byth yn dy anghofio.” Cododd hi o’i gwely – roedd hi’n teimlo’n llai ofnus. Roedd hi methu credu bod ei chwaer rywsut wedi dychwelyd ati. Cododd y ddol yn ofalus, ei chario at y gwely a’i rhoi ar y gobennydd wrth ei hymyl.
“Eleri, sut wyt ti’n gallu bod yma?” gofynnodd i’r ddol, heb gredu’n iawn fod hyn yn digwydd.
“Dw i ddim yn gwybod,” atebodd y ddol. “Rhoddodd Mami fi i ffwrdd a ro’n i’n sownd yn y lle ofnadwy yna lle’r o’n i’n sâl. Pam wnes ti ddim dod i nôl fi?”
Dechreuodd Eldrydd grïo eto. “Do’n i ddim yn gwybod, fyddwn i byth wedi gadael i Mam dy anfon yno os oeddwn i’n gwybod.”
“Ti yw fy chwaer fawr, dylet ti fod wedi gwybod,” meddai Eleri. Roedd hi’n swnio’n flin.
Cafodd Eldrydd ei synnu gan lais ei chwaer.
“Sut allwn i fod wedi gwybod? Roeddet ti wedi marw a dim ond dol oedd Annie!”
Gyda symudiad cyflym, roedd y ddol ar ei thraed, ei hwyneb yn dal yn dlws, ond roedd ei llais yn llawn dicter. “Nid jest dol yw Annie a wnes i ddim marw!”
“Sori Eleri, do’n i ddim yn bwriadu dy gynhyrfu.”
“Ti ddim yn difaru, wnest ti adael fi!” gwaeddodd y ddol, a rhedeg ar draws y gwely, llithro oddi arno a glanio ar ei thraed.
Roedd Eldrydd wedi dychryn. Roedd yn anelu at ddrws yr ystafell wely er mwyn dianc o’r fflat, ond roedd dwylo bach yn gafael yn ei ffêr ac yn ei thynnu i lawr. Y peth olaf wnaeth hi glywed oedd Eleri yn sgrechian: “Ti ddim yn gadael fi eto!”
********************************************************************************************************
Fe wnaeth Catrin roi’r ffôn i lawr. Unwaith eto, doedd yr heddlu ddim yn gallu dweud dim wrthi, dim cliwiau, dim byd. Roedd ei merch wedi cael ei llofruddio yn ei chartref ei hun ac roedd yr heddlu wedi methu a dod o hyd i‘w llofrudd.
Roedd yn golled drawmatig – eto. Roedd ei dwy ferch hardd wedi marw. Doedd hi ddim yn gwybod pa mor hir roedd hi wedi bod yn eistedd yn yr ystafell fyw yn crio. Sychodd ei llygaid a chwythu ei thrwyn. Trodd ei llygaid at y bocsys yng nghornel yr ystafell. Roedden nhw’n cynnwys eiddo o fflat ei merch. Roedden nhw wedi bod yno am dros fis, heb eu cyffwrdd. Gydag ochenaid fawr, cododd o’r soffa a cherdded draw at y bocsys, gan agor yr un cyntaf. Syllodd ar y ddol. Yn edrych i fyny arni oedd Annie, dol Eleri, yr un roedd hi wedi ei rhoi i’r hosbis dros 30 mlynedd yn ôl. Sut oedd Eldrydd wedi dod o hyd iddi?
Doedd Catrin ddim yn barod i ddelio gyda’r atgofion yma a dechreuodd gau‘r bocs, pan glywodd llais yn dweud: “Paid â gwneud hyn Mami, paid â gadael fi eto.”