Mae Sŵ Santa Barbara yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed

Mae gen i deimladau cymysg am sŵau.

Ond pan wnaeth fy nghymydog, Hale, ofyn i fi ymuno ag ef i weld arddangosfa arbennig yn Sŵ Santa Barbara, do’n i ddim yn gallu gwrthod.

Cafodd y sŵ ei agor yn 1963 ar 30 erw ger lan y môr yn Santa Barbara. Heddiw, mae’r sŵ yn gartref i bron i 150 rhywogaeth, a mwy na 500 o anifeiliaid i gyd.

Dros y blynyddoedd dw i wedi ymweld â’r sŵ sawl gwaith gyda ffrindiau a’u plant, ac mae rhywbeth newydd a diddorol i’w weld bob amser.

I ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed, penderfynodd Sŵ Santa Barbara wneud arddangosfa unigryw yn cyfuno anifeiliaid a goleuadau, o’r enw ZooLights! Ro’n i wedi darllen a chlywed pethau da iawn am ZooLights!. Roedd yn rhedeg o fis Rhagfyr 2023 drwy fis Ionawr 2024. Ac mae’r sŵ yn dda iawn am gynnig profiad anhygoel am bris tocyn rhesymol. Felly roedd rhaid i mi fynd i weld beth oedd yr holl ffỳs amdano!

Crwbanod enfawr

Gwledd i’r synhwyrau

Wel, fel fy mhrofiad eithriadol yn Sensorio yn Paso Robles, roedd ZooLights! yn wledd i’r synhwyrau. Roedd miloedd o lanterni mewn siapau anifeiliaid wedi’u goleuo gan fwy na 50,000 LEDs.

Roedd ZooLights! yn brofiad i ddifyrru’r llygaid ac ysbrydoli’r dychymyg. Roedd yn ddiddorol ac yn brydferth.

Roedd pob math o greaduriaid disglair wedi’u gosod o gwmpas y sŵ, mewn lliwiau llachar.

Treulion ni ddwy awr yn cerdded o gwmpas yr holl arddangosfeydd.

Roedd cymaint i’w weld – a chymaint o ddyluniadau dyfeisgar i astudio – roedd cerdded o gwmpas y sŵ yn teimlo fel antur arallfydol.

Twnnel tanddwr

Ar ddiwedd y noson, daethon ni o hyd i set o adenydd enfawr. Roedd y rhain ar gyfer ymwelwyr er mwyn iddyn nhw dynnu lluniau swfenîr cyn mynd adre. Weithiau mae’n hwyl i fod yn dwrist yn eich tref eich hun.

Ac, wrth gwrs, nawr dw i’n gwybod sut byddwn i’n edrych fel aderyn… gydag adenydd 20-troedfedd!

Pili-palod
Sglefren for a’i ffrindiau