Mae Pegi Talfryn yn awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg. Mae hi hefyd yn ysgrifennu stori gyfres i Lingo Newydd ac yn gosod tasgau Hwyl Gyda Geiriau i Lingo360. Mae hi’n byw yn Waunfawr wrth ymyl Eryri. Mae Pegi wedi ysgrifennu llawer o lyfrau ar gyfer dysgwyr yn y gyfres Amdani. Rŵan mae hi wedi ysgrifennu llyfr newydd Rhywun yn y Tŷ ar gyfer lefel Mynediad. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360…

Clawr y llyfr Rhywun yn y Tŷ? gan Pegi Talfryn

Sut fysach chi’n disgrifio’r llyfr Rhywun yn y Tŷ?

Mae hi dipyn bach yn arswydus – ond ddim yn rhy arswydus!  Mae’r stori yn digwydd ym mhentref Llandonwyr – lle mae’r stori gyfres Y Dawnswyr (wnaeth ymddangos yn Lingo Newydd) yn digwydd. Mae Manon wedi prynu tŷ yn y pentref, ac mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd.  Roeddwn i wedi mwynhau Y Dawnswyr cymaint, roeddwn i eisiau mynd nôl i’r pentre’ eto!

Ydy’r steil yn wahanol i beth fysach chi fel arfer yn sgwennu?

A dweud y gwir, mae’r steil yn debyg iawn i Y Dawnswyr. Dw i’n mwynhau ysgrifennu stori yn y presennol. Dw i’n meddwl bod hynny’n gweithio’n dda iawn ar gyfer lefel Mynediad a hefyd mae’n gweithio’n dda pan mae dirgelwch yn y stori.

Pwy ydy’r prif gymeriad a sut fysach chi’n disgrifio nhw?

Y prif gymeriad ydy Manon Hughes.  Athrawes ydy hi.  Mae hi’n gweithio’n galed yn yr ysgol ac yn mwynhau byw mewn tŷ newydd yn Llandonwyr.  Mae gynni hi gi o’r enw Cadno.  Dydy hi ddim yn berson ofnus.

Oes llawer o gymeriadau eraill yn y llyfr?

Mae digon o gymeriadau yn y stori.  Mae rhai pobl yn yr ysgol a’r gwaith a brawd Manon. Dach chi’n mynd i weld rhywun dach chi’n ‘nabod o stori Y Dawnswyr.  Ond y cwestiwn mawr ydy – oes rhywun yn y tŷ? Rhywun sy ddim yn fyw…

Pan dach chi’n sgwennu llyfr, dach chi’n seilio’r cymeriadau ar bobl dach chi’n adnabod?

Tipyn bach. Dw i’n cymryd nodweddion pobl ac yn eu rhoi nhw yn y cymeriadau. Weithiau dw i’n rhoi pobl dw i’n nabod yn y llyfr, ac weithiau pobl dw i’n gweld ar y stryd. Ond y prif berson sy’n rhoi sail i’r llyfrau ydy fi fy hun. Mae hi’n hawdd disgrifio sut mae person yn teimlo, achos dw i’n meddwl, sut faswn i’n teimlo?

O le mae’r syniadau yn dod?

Dw i’n darllen pob math o lyfrau drwy’r amser ac maen nhw’n rhoi syniadau am stori ac am steil. Fel arfer dw i’n ysgrifennu pethau baswn i’n hoffi eu darllen. Pan dw i’n ysgrifennu dw i’n byw yn y stori, ac mae llawer o syniadau newydd yn popio i mewn i fy mhen.

Ar gyfer pa lefel mae Rhywun yn y Tŷ?

Ar gyfer lefel Mynediad.

Pryd fydd yn cael ei lansio?

Bydd yn cael ei lansio ym mis Mai. Mae’n cael ei gyhoeddi gan gwmni Sebra.