Irram Irshad sy’n ysgrifennu colofn newydd am rai o lefydd ac adeiladau hanesyddol Cymru. Mae Irram yn fferyllydd sy’n caru hanes! Y tro yma, mae hi wedi bod ar daith o gwmpas Y Plasty (Mansion House) yng Nghaerdydd. Roedd yn arfer bod yn breswylfa swyddogol  Arglwydd Faer Caerdydd


Tua chanol mis Rhagfyr cefais anrheg Nadolig cynnar a hyfrydte prynhawn gyda ffrind yn Y Plasty yng Nghaerdydd, neu Mansion House fel mae’n cael ei alw yn Saesneg. Cyn y te pnawn cawson ni daith o amgylch yr adeilad rhestredig Gradd II, a oedd yn gartref i Arglwydd Faer Caerdydd hyd at 1971.  Am berl o le!

Y grisiau llydan yn y Plasty

Cafodd ei adeiladu yn 1896 gan James Howells, perchennog siop Howells yng Nghaerdydd. Roedd e angen tŷ mwy ar gyfer ei 11 o blant!

Mae’r Plasty yn anarferol gan fod ganddo ddau ddrws ffrynt a grisiau llydan iawn y tu mewn. Roedd James Howells wastad yn poeni am golli ei fusnes. Os oedd hynny’n digwydd roedd yn bwriadu rhannu’r tŷ yn ei hanner.

Byddai ei deulu yn byw mewn un ochr, a’r hanner arall yn cael ei rhentu am incwm. Yn ffodus, ni ddigwyddodd hynny a bu’n byw yno tan ei farwolaeth yn 1909. Mae portread ohono yn hongian yn falch yn y Plasty, ar ôl cael ei ddychwelyd gan House of Fraser pan gaeodd y siop y llynedd.

Mae’r Plasty wedi ei ddodrefnu’n hyfryd. Mae’n edrych fel yr oedd yn y dyddiau pan oedd yn breswylfa swyddogol Arglwydd Faer Caerdydd.

Mae’r grisiau llydan yn rhannu’n ddau gan arwain at gyfres o ystafelloedd preifat yr Arglwydd Faer a phedair ystafell wely.  Ar yr ail lawr, mae ystafelloedd lle’r oedd y gweision a’r staff yn cysgu.

Mae’r Plasty wedi cael llawer o westeion enwog gan gynnwys y Brenin George V, David Lloyd George, Winston Churchill, Nelson Mandela, a’r actorion Michael Douglas a Catherine Zeta-Jones.

Prynodd Corfforaeth Caerdydd y tŷ gan deulu Howells yn 1912. Cafodd ei ddefnyddio fel cartref yr Arglwydd Faer hyd at 1971. Cafodd y tŷ ei adnewyddu yn 1998 ar gyfer Uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd yng Nghaerdydd.

Cafodd llawer o drysorau hardd eu rhoi i’r Plasty gan gynnwys rhai gan aelodau’r Teulu Brenhinol. Roedd yn draddodiad y byddai pob Maer yn rhoi rhodd ar ddiwedd eu tymor.

Y gwpan cariad oedd yn rhodd gan gyn-Faer

Un o’r anrhegion mwyaf gwerthfawr oedd ‘cwpan cariadgwerth £3,000 gan y cyn-Faer John Patrick Crichton Stuart, Marcwis Biwt. Mae’r gwpan wedi’i gwneud o arian, a’i gorchuddio â diemwntau, rhuddemau, emeraldiau ac amethystau.  Yn ystod partïon, byddai’n cael ei llenwi ag alcohol a’i phasio o gwmpas i bawb gymryd sip.  Ges i gynnig i’w chodi – ond mae hi’n drwm iawn cyn cael ei llenwi gydag alcohol!

Mae’r gwpan yn cael ei chadw yn yr ystafell fwyta. Yn ddiweddar cafodd yr ystafell yma ei defnyddio ar gyfer ffilmio’r gyfres Doctor Who newydd gyda Ncuti Gatwa, sy’n chwarae’r Doctor newydd. Ond dw i ddim yn cael dweud mwy wrthych chi am hynny! Bydd yn rhaid i chi aros i weld y gyfres newydd…

Erbyn hyn dych chi’n gallu llogi’r Plasty ar gyfer digwyddiadau a phriodasau. Dyw’r ystafelloedd i fyny grisiau ddim yn cael eu defnyddio bellach ac mae cynlluniau i’w trawsnewid yn swyddfeydd. Mae’n beth da bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ac na fydd yn cael ei adael yn segur ond mae’n drueni nad oedd Cyngor Caerdydd wedi ystyried ei droi’n ganolfan dreftadaeth i’r ddinasWedi’r cyfan, ble allwch chi fynd yng Nghaerdydd i ddysgu am ei hanes diweddar?

Cawsom ofal da gan y tywysydd teithiau, Geoff, a’i gydweithiwr, Lynne yn ystod ein hymweliad.  Roedd y te prynhawn yn ddiweddglo hyfryd i’r daith. Brechdanau, sgons a chacennau blasus.  Digon o de, coffi a Prosecco – roedd yn brynhawn bendigedig.

Y te prynhawn yn y Plasty

Rhif ffôn Y Plasty – 029 2087 1736

E-bost: mansionhouse@cardiff.gov.uk