Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n caru hanes! Mae ei cholofn yn edrych ar rai o lefydd ac adeiladau hanesyddol Cymru. Y tro yma, mae hi wedi bod yn ymweld ag ystâd Llanerchaeron yng Ngheredigion… 

Er gwaethaf y tywydd gwlyb wrth deithio o Gaerdydd i Geredigion, roedd y golygfeydd yn drawiadol. Roeddwn i wedi bod yn awyddus i ymweld ag ystâd Llanerchaeron, ger tref Aberaeron ers amser hir.

Mae’n fila Sioraidd restredig Gradd I ger Afon Aeron. Cafodd ei dylunio gan y pensaer John Nash yn 1790. Roedd yn bensaer anhysbys o Lundain ar y pryd ond daeth yn un o benseiri mwyaf blaenllaw’r cyfnod Sioraidd a Rhaglywiaeth.

Mae Llanerchaeron yn teimlo’n wahanol iawn i eiddo eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – y munud wnes i gerdded i mewn, ro’n i’n teimlo’n gartrefol iawn. Dyma rywle y gallwn i ddychmygu fy hun yn byw!

Rhai o’r adeiladau ar ystad Llanerchaeron

John Nash

Yn y 1600au, roedd ffermdy bychan ar y safle. Cafodd y ffermdy ei droi yn fila foethus yn 1795 gan John Nash. Pensaernïaeth Paladaidd oedd yn cael ei ffafrio ar y pryd. Roedd y cyfan yn ymwneud â chymesuredd a phersbectif.

Mewn gwirionedd, mae gan Llanerchaeron ‘ffenestri ffug‘. Dych chi ddim yn gallu gweld y rhain o’r tu mewn ond, o’r tu allan, roedd yn ffordd o sicrhau bod yr un nifer o ffenestri ar ddwy ochr y drws ffrynt.

Roedd John Nash wedi cael ei gomisiynu gan y Cyrnol William Lewes i adnewyddu’r ffermdy. Arhosodd y tŷ yn nheulu’r Lewes nes iddo gael ei roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1989 ynghyd â 760 erw o dir.

Teulu ffermio oedd y Lewes ac roedden nhw’n credu mewn hunangynhaliaeth. Ni chafodd y fferm na’r adeiladau allanol eu newid erioed felly mae’n hawdd gweld ble a sut roedd tasgau hanfodol yn cael eu gwneud. Yn yr iard yn y cefn mae ystafell fawr ar gyfer golchi dillad, bragdy, ac ystafelloedd halltu a mygu cig.  Mae hyd yn oed adeilad ar wahân sef yr Ystafell Biliards!

Mae’r gerddi muriog yn gartref i ddwsinau o goed ffrwythau, ac mae’r gerddi wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers bron i 200 mlynedd.

Yr ystafell fwyta

Yr ystafelloedd

Yn y tŷ ei hun, oddi ar y cyntedd, mae ystafell fwyta, gyda dodrefn Edwardaidd yn bennaf o’r 1900au cynnar, a lle tân marmor modern. Does dim ond rhaid edrych ar drwch y waliau i weld bod tai fel hyn wedi cael eu hadeiladu i bara!

Yn y parlwr mae piano mawr, a lluniau o’r teulu Lewes.  Byddai’r ystafell hon wedi cael ei defnyddio ar gyfer diddanu gwesteion.

Mae’r ystafell fore yn fwy clyd. Roedd yn rhan o’r tŷ gwreiddiol o ddiwedd y 1630au, ac mae’r lle tân yn fwy effeithiol wrth wresogi’r ystafell.

Yr ystafell arlunio

Ar hyn o bryd mae’r llyfrgell fach yn arddangos casgliad o glociau.

Y nodwedd fwyaf trawiadol yn y cyntedd yw’r grisiau cantilifrog sy’n rhannu’n ddwy.  Os fydda’i byth yn ennill y Loteri mi fydda’i yn bendant yn cael grisiau fel hyn!

Ar y llawr uchaf mae boudoir, ystafell fach i wraig y tŷ.  Mae’r drws yn grwm, sy’n golygu pan fydd wedi cau, mae’r ystafell yn hollol hirgrwn.

Ystafell wely y Capten Thomas Lewes
Yr ystafell fore

Yr olwyn ddŵr

Cafodd rhai newidiadau bach eu gwneud gan y Capten Thomas Lewes a’i wraig, Annie, yn y 1920au. Cafodd ystafelloedd gwisgo eu creu rhwng yr ystafelloedd gwely, a llefydd tân newydd eu gosod mewn rhai ystafelloedd. Cafodd yr ystafell ymolchi gyntaf ei adeiladu yn Llanerchaeron yr un pryd. Roedd olwyn ddŵr ar yr ystâd hefyd yn cyflenwi trydan i’r tŷ.

Mae nifer o’r ystafelloedd i fyny grisiau yn cynnwys casgliad o eitemau gan Pamela Ward. Roedd ganddi siop hen bethau ac wedi gadael dros 5,000 o eitemau i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl ei marwolaeth yn 1994. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau, tecstilau, gwydr a serameg.

Dim newidiadau ers 200 mlynedd

Beth sy’n arbennig am Llanerchaeron ydy nad yw wedi cael ei addasu ers dros 200 mlynedd.

Y grisiau yn y fila

Un o’r rhesymau pam nad ydy’r tŷ wedi cael ei newid dros y blynyddoedd ydy oherwydd un wraig.  Ym 1828, etifeddodd John Lewes yr ystâd gan ei dad, ond bu farw yn 1855, gan adael ei weddw Mary, ond dim plant.  Gadawodd John Lewes yr ystâd i’w chwaer a’i merch, ar yr amod bod Mary yn cael aros yn Llanerchaeron hyd ei marwolaeth.

Gan nad oedd hi’n berchen arno, doedd Mary ddim yn gallu gwneud unrhyw newidiadau.  Roedd Mary wedi byw’n hirach na’i chwaer-yng-nghyfraith a’i nith. Roedd Mary wedi rheoli’r ystâd nes ei marwolaeth yn 1917 yn 104 oed.  Symudodd y Capten Thomas Lewes (yr hen nai) i’r tŷ a gwerthu’r rhan fwyaf o’r dodrefn Sioraidd. Dodrefn Edwardaidd sydd bellach yn y tŷ.  Roedd hefyd wedi gosod cwrs golff 9 twll ar y tir!

Eisteddfod yr Urdd

Cafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal yn Llanerchaeron yn 2010. Roedd hyn wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr i Lanerchaeron o 35,000 i 100,000 bob blwyddyn.  Wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod, cafwyd hyd i greiriau canoloesol o dan y ddaear, gan ei wneud yn safle archeolegol diddorol.

Felly os gewch chi gyfle i ymweld ag ystâd Llanerchaeron, mae digon i’w wneud a chewch chi ddim eich siomi!

https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/llanerchaeron

Yr Ystafell Biliards