Mae hi’n 60 mlynedd ers i Gaerdydd a Nantes yn Ffrainc gael eu gefeillio’n ffurfiol. Mae hi hefyd yn 70 mlynedd ers y cyfnewid ysgol cyntaf rhwng y ddwy ddinas. Yma mae Maggie Smales, Cadeirydd Cymdeithas Cyfnewidfa Caerdydd-Nantes yn dweud mwy am y cynllun cyfnewid ysgol…


Mae hi’n 60 mlynedd eleni ers y trefniant gefeillio ffurfiol rhwng Caerdydd a Nantes. Ond mae hefyd yn 70 mlynedd ers y cyfnewid ysgol cyntaf rhwng y ddwy ddinas.

Roedd hon yn antur enfawr yn y dyddiau cynnar. Doedd dim llawer o ddisgyblion wedi bod ymhellach na Phorthcawl neu Ynys y Barri ar eu gwyliau. Mae’n debyg nad oedd rhai wedi mynd dros y ffin i Loegr. Teithiodd y bobl ifanc ar drên a fferi ac roedden nhw’n aros gyda theulu Ffrengig am fis. Roedd hyn yn sioc ddiwylliannol – ond yn hwb enfawr i’w sgiliau iaith!

Sut mae’r amseroedd wedi newid. Yn 2024 mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi bod dramor, o leiaf ar wyliau i Ewrop. Ond mae’r cyfleoedd i fynd ar gyfnewid ysgol bron wedi diflannu, yn enwedig i’r rhai llai cyfoethog.  Felly mae’n braf iawn clywed bod Ysgol Uwchradd Willows yn Nhremorfa wedi mynd â grŵp bach o ddysgwyr Ffrangeg i Ffrainc eleni. Roedd yn rhan o gyfnewid gyda’r Coleg Victor Hugo yn Nantes.

Nhw oedd yr unig ysgol yng Nghaerdydd i drefnu profiad o’r fath i’w disgyblion. Cafodd y daith ei threfnu dan nawdd Taith, rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n galluogi pobl ifanc, yn enwedig y rhai o ardaloedd difreintiedig, i brofi diwylliannau gwahanol.

Aeth saith disgybl i Nantes ym mis Ebrill. Roedd y disgyblion yn aros mewn gwesty yn lle gyda theuluoedd oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch. Ond roedden nhw wedi cymryd rhan mewn gwersi yn y Coleg, gan gynnwys Addysg Gorfforol. Cawson nhw amser cinio hir a phrydau ysgol Ffrengig. Cafodd y disgyblion raglen ddiwylliannol brysur yn ymweld â llefydd hanesyddol yn Nantes. Ar ddiwedd mis Mehefin, fe wnaeth parti o blant ysgol o Ffrainc wneud y daith nôl i Gaerdydd gyda rhaglen lawn o weithgareddau.

Mae’r Club de Francais (www.clubdefrancais.org.uk) yn glwb cymdeithasol i oedolion sydd â diddordeb yn Ffrainc a’r iaith Ffrangeg. Ry’n ni’n credu y dylai pob disgybl yng Nghymru gael cyfle i ddysgu Cymraeg ac iaith ryngwladol. Ddylai hi ddim bod yn gwestiwn o naill ai/neu. Felly, wnaethon ni benderfynu cynnig gwobr am y stori orau o daith Ysgol Uwchradd Willows i Ffrainc. Cafodd y wobr ei chyflwyno yn yr ysgol ar 25 Medi gan Mme Claude Rapport. Roedd hi yn gonswl Ffrainc i Gymru am nifer o flynyddoedd. Mae hi’n gefnogwr brwd o fentrau diwylliannol Ffrangeg yng Nghaerdydd.  Llongyfarchiadau i’r enillydd, Gwion, ar ei stori fywiog o’i daith i Ffrainc – (gyda llaw, doedd e ddim yn mwynhau’r cinio ysgol yn Ffrainc!). Ry’n ni’n edrych ymlaen at gwrdd â rhai o’r disgyblion wyneb yn wyneb ar Hydref 18 a chlywed mwy am eu hanturiaethau.


Dyma stori Gwion oedd wedi ennill gwobr Club de Francais:

Yr eliffant mecanyddol yn Nantes
Llun: Justine Swainson

Ar 14 Ebrill, ymwelais â Nantes yn y Pays de Loire. Teithiais yno ar awyren, dyma’r tro cyntaf i mi fod mewn awyren. Aethon ni i Coleg Victor Hugo (Ysgol Uwchradd Victor Hugo). Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n llawer brafiach na fy ysgol i. Os oeddwn i’n gallu siarad Ffrangeg yn well, byddwn i wrth fy modd i fod yn ddisgybl yno. Ond doeddwn i ddim yn hoffi’r cinio ysgol, roedd hyn yn ofnadwy.

Yn ogystal ag ymweld â’r ysgol, aethon ni i St Nazaire. Ro’n i’n dwlu ar St Nazaire oherwydd ein bod wedi ymweld â llong danfor (L’Espadon). Ro’n i’n meddwl bod hynny’n gyffrous iawn. Lle arall welson ni oedd y Machines de l’Île (Peiriannau yr Ynys). Ro’n ni’n gweld pethau fel yr eliffant mecanyddol.

Chateau des Ducs de Bretagne yn Nantes

Yn yr ysgol fe wnes i lawer o ffrindiau newydd, aethon ni gyda nhw ar daith o amgylch y ddinas. Lle arall wnes i fwynhau’n fawr oedd y Castell (Le Château des Ducs de Bretagne).

Roedd pobl Ffrainc yn westeion mor dda, felly wnaethon ni ddychwelyd y ffafr. Yn ystod eu hymweliad â’n hysgol, aethon ni â nhw i un o fy hoff atyniadau lleol. Roeddwn i’n falch iawn o rannu a gwerthfawrogi fy nhreftadaeth gyda nhw fel y gwnaethon nhw i ni. Ar y cyfan, ro’n i wrth fy modd â’r cyfle hwn ac yn credu bod y cyfnewid yn ddefnyddiol iawn i helpu gyda dysgu Ffrangeg.