Dych chi eisiau mwynhau penwythnos gyda’r teulu wrth ymyl un o draethau gorau Ceredigion – ac ymarfer eich Cymraeg yr un pryd?

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi trefnu penwythnos arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog y flwyddyn nesaf. Bydd yn cael ei gynnal rhwng 28 Chwefror a 3 Mawrth.

Bydd cyfle i gymdeithasu, mwynhau gyda’r teulu, dysgu a defnyddio eich Cymraeg.

Mae llawer o weithgareddau fel castell neidio, badminton a nofio, ac adloniant i’r holl deulu.

Mae’r Ganolfan yn dweud: “Fe fydd yn benwythnos cyffrous a llawn hwyl. Pwrpas y penwythnos yw defnyddio’r Gymraeg gyda’r teulu mewn awyrgylch cefnogol a hwyliog.

“Byddwch chi’n cyrraedd erbyn 11.30yb dydd Gwener 28 Chwefror mewn pryd am ginio am 12.20. Bydd gweithgareddau a gwersi yn cychwyn ar ôl cinio. Bydd y gwersi a’r gweithgareddau yn dod i ben am 12.30 ddydd Sul, 2 Mawrth a byddwch chi’n cael cinio cyn gadael.”

Mae cynnig arbennig gyda gostyngiad mawr yn y pris y mis hwn. Os dych chi’n cofrestru cyn 31 Hydref eleni y gost yw £165 am oedolyn (neu £200 o 1 Tachwedd).

Y gost i blant 8+ yw £140 (neu £172 os dych chi’n cofrestru ar ôl 31 Hydref), a £118 i blant rhwng 3 a 7 oed (neu £127 ar ôl 31 Hydref).  Mae plant o dan 3 oed am ddim. Does dim angen talu’n llawn wrth gofrestru.

Mae mwy o wybodaeth yma: