Mae GwyrddNi yn brosiect newid hinsawdd yng Ngwynedd. Mae’n dod a chymunedau at ei gilydd i ddysgu, rhannu a gweithredu ar newid hinsawdd. Maen nhw yn actif ym Mhen Llŷn, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Bro Ffestiniog a Dyffryn Nantlle. Mae llawer o’r grwpiau yn edrych ar bethau fel ynni, tai, bwyd a thrafnidiaeth

Ym mis Hydref, aeth criw bach o GwyrddNi ar gwrs preswyl Cymraeg Canolradd/Uwch yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Dros yr wythnos, cafodd y myfyrwyr gyfle i glywed cyngerdd preifat gan Gwilym Bowen Rhys; roedden nhw wedi ymweld â’r hwb cymunedol Yr Orsaf ym Mhenygroes i glywed am eu gwaith, ac wedi clywed Steve Eaves yn sôn am “Ecoieithyddiaeth”.  Ac, wrth gwrs, roedd digon o gyfle i ddysgu ac ymarfer Cymraeg!

Mae Nina yn Hwylusydd Cymunedol gyda GwyrddNi ym Mro Ffestiniog. Mae hi wedi ysgrifennu blog am ei thaith i Nant Gwrtheyrn…


Y golygfeydd o ganolfan iaith Nant Gwrtheyrn

Os dych chi eisiau newid y ffordd dych chi’n meddwl am rywbeth, mae angen i chi gael gwared ar rwystrau. Fel dysgwr Cymraeg, a’r unig aelod o staff GwyrddNi oedd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith, roeddwn i eisiau dipyn o “shake-upo gwmpas dysgu’r iaith.

Y cwestiwn wnes i ofyn i fi’n hun oedd – fedrai 4.5 diwrnod o siarad dim ond Cymraeg wir gael effaith sy’n newid bywyd? Mi es i gyda meddwl agored, ond doeddwn i ddim yn disgwyl iddi fod yn bilsen hud.

Erbyn diwedd yr wythnos, sylweddolais fod fy rhesymau dros ddysgu Cymraeg o’r blaen yn dangos diffyg ysbryd, diffyg dyfnder.

Dros yr wythnos yn Nant Gwrtheyrn, ges i gipolwg ar deimlad newydd – fel lafa o dan y ddaear sy’n ymestyn dros amser a thrwy bopeth. Mae hynny’n rheswm da i godi yn y bore!

Un o’r rhwystrau mwyaf oedd gen i oedd fy mod i ddim yn credu y gallai cyfeillgarwch ddatblygu heb siarad yn rhugl, heb wybod yr holl eiriau cywir. Ond mae’n gallu!

Y grŵp o wirfoddolwyr, ac un aelod o staff, o brosiect GwyrddNi ar gwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn

Roedd y saith ohonon ni yn siarad Cymraeg trwy frecwast, cinio, a swper, wrth i ni gerdded i’r dosbarth, i’r traeth, trochi yn y môr, yn y dafarn. Doedd ein cyfeillgarwch ddim yn dioddef oherwydd diffyg rhuglder. Yn wir, baswn i’n dweud ei fod yn well. Roedden ni’n rhoi amser, gofod, ac anogaeth i’n gilydd.

Roeddwn i hefyd yn poeni na faswn i byth yn gallu bod yn hollol rugl. Ac ydi cyfieithu o un iaith i’r llall wir yn bosib? Rydw i wedi cymharu dysgu iaith â chodi ffidil am y tro cyntaf yn 35 oed, gydag efallai dim ond ychydig o gefndir cerddorol. Fyddech chi byth yn disgwyl ymuno â’r Royal Philharmonic ar ôl ychydig flynyddoedd. Efallai mai’r gorau y gallwn i obeithio amdano oedd eistedd yng ngherddorfa’r ysgol fel hen ddynes, yn dal i daro’r nodau anghywir weithiau! Roedd fy wythnos yn Nant Gwrtheyrn wedi gwneud i mi sylweddoli nad oedd angen i’r rhwystr fod yno o gwbl. Yn lle meddwl am ddysgu iaith fel taith “fyny ac i lawr”, dechreuais ei gweld fel edrych drwy ffenestr ar olygfa newydd, safbwynt gwahanol ar fywyd a’r byd. Gwnes i feddwl am y gwaith manwl o drin lluniau Canoloesol: darganfod lliwiau a manylion newydd, oedd wedi eu cuddio o’r blaen.

Y grwp o GwyrddNi ar y cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn

Wrth edrych ar ddysgu Cymraeg fel cyfle i ddarganfod y bydoedd cudd hyn, roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy ngrymuso gan beth oeddwn wedi’i ddysgu hyd yn hyn yn lle trio anelu am yr amhosibl.

Gwelais fod beth oeddwn yn ei wneud yn barod – clirio rhan newydd o’r ffenestr a mwynhau’r siapiau a’r lliwiau newydd roeddwn i’n gallu eu gweld, yn beth da. Wnes i ddechrau gweld fy hun fel anturiaethwr – a gwnaeth y newid yna chwalu’r rhwystrau oedd yn fy meddwl.

Wrth gwrs, dwi wedi dysgu dipyn o taswn i a baswn i, a mwy. Ond y lafa a’r tir di-rwystr sydd yn fy helpu i edrych ymlaen tuag at y dyfodol.

Mae mwy o wybodaeth yma am GwyrddNi.