Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn fand Cymraeg unigryw. Mae gan y brodyr Hughes – Iwan Glyn, Aled Wyn, a Dafydd Rhys – le arbennig o fewn y tirlun cerddoriaeth Gymraeg.
Maen nhw wedi datblygu steil unigryw sy’n cyfuno gwerin, roc, a hyd yn oed twtsh o Americana i greu genre apelgar sy’n eang ond eto yn hollol Gymreig.
Dros eu chwe albwm hyd yn hyn maen nhw wedi ysgrifennu, recordio, a pherfformio yn eu ffordd eu hunain, ac i’w hamserlen eu hunain. Mae hyn yn amlwg yn ansawdd eu caneuon, albymau, a pherfformiadau ers i’w gyrfa gychwyn yn 2007.
Bydd chweched albwm y band, Mynd â’r Tŷ am Dro, yn cael ei rhyddhau ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth). Bydd y band yn dathlu gan fynd ar daith dros Gymru ym mis Mawrth ac Ebrill. Cafodd Mynd â’r Tŷ am Dro ei recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog ac mae wedi’i gynhyrchu gan y brodyr eu hunain.
Iwan ydy prif gyfansoddwr a phrif leisydd y grŵp ac mae hefyd yn chwarae gitâr drydan ac acwstig, organ geg, ac allweddellau. Dafydd ydy’r drymiwr, gydag Aled yn canu hefyd a chwarae’r bas, gitâr drydan, ac allweddellau. Mae Georgia Ruth Williams (gwraig Iwan ac artist cerddorol ei hun) yn canu hefyd, a chafodd yr albwm ei chymysgu a’i meistroli gan Aled. Anthony Pritchard oedd wedi tynnu llun y clawr, a chafodd y gwaith celf ei gynllunio gan Dafydd. Ymdrech deuluol yw’r albwm yma! Hefyd yn ymddangos ar Mynd â’r Tŷ am Dro mae Branwen Haf Williams (llais, piano), Llŷr Pari (gitâr drydan), Euron Jones (gitâr ddur bedal), Gethin Wyn Griffiths (organ, piano drydan), a Georgia Ruth Williams (llais).
Meddylgar, aeddfed, tyner, a synfyfyriol yw’r caneuon, perfformiadau, a recordiadau ar Mynd â’r Tŷ am Dro. Dyma albwm sy’n werth gwrando arni nifer o weithiau.
Mae Aled Wyn Hughes o’r band wedi bod yn ateb cwestiynau Lingo360…
Pawlie: Llongyfarchiadau ar eich albwm newydd! Dros ba gyfnod o amser cafodd y caneuon eu hysgrifennu, a pha effaith gafodd y pandemig ar hynny, o’i gymharu â’ch proses arferol?
Aled: Diolch! Mae’n broses weithio ac ysgrifennu mor ara’ deg beth bynnag, dwi ddim yn meddwl i’r pandemig effeithio rhyw lawer ar hynny! Ond fe gafodd effaith wrth reswm ar y posibilrwydd o fynd i’r stiwdio, a gan nad oedden ni’n medru gigio, roedd o’n teimlo fel cyfnod o seibiant i’r band. Roedd hynny, law yn llaw a’r ffaith fod llawer o blant bach wedi ymddangos ers yr albwm ddiwethaf, yn rheswm digon teilwng dros yr oedi! Er hynny, dwi’n siŵr i Iwan barhau i gyfansoddi trwy’r cyfnod clo, er bod egin y rhan fwyaf o’r caneuon newydd yn bodoli sbel cyn hynny.
Pawlie: Faint o amser wnaethoch chi dreulio yn recordio a chymysgu’r record? Oedd hwn yn albwm hawdd i’w gwneud?
Aled: Roedd o’n teimlo’n eithaf hawdd a chyfforddus. Fe gymerodd rhyw ddwy flynedd o fynd a dod yn y stiwdio, ond roedd y gwaith yn cael ei wneud yn eithaf cyflym o fewn y cyfnodau yna. Fe gymerodd yr albwm cynt, IV, lawer o amser, ond roedd y broses yn wahanol. Y tro yma fe aethon ni ‘nol at sut y bu i ni recordio’r tair albwm gyntaf, gan recordio cryn dipyn o fy rhannau i, Dafydd ac Iwan yn ‘fyw’ yn y stiwdio. Mi fuodd y cerddorion eraill yn overdubio ar ben hyn wedyn. Mi ddigwyddodd y cymysgu yn ddigon sydyn hefyd – dwi’n hoffi cael siâp go dda ar bethau tra’n recordio, a pheidio gadael gormod o opsiynau a gorfod gwneud cannoedd o benderfyniadau ar ôl recordio (rhywbeth dwi wedi ei ddysgu ers yr albwm cynt…!)
Pawlie: Dw i’n clywed ychydig o DNA o’ch albymau cynharach yn y caneuon newydd hyn. Oes unrhyw beth wedi newid yn eich proses greadigol dros y blynyddoedd?
Aled: Mae tipyn wedi newid. Mae’r albwm gyntaf, Dawns y Trychfilod (2007) a gynhyrchwyd gan Dyl Mei yn teimlo fel band gwahanol. Mae hynny’n ddigon rhesymol dwi’n meddwl gan mai bachgen 15 oed ysgrifennodd y caneuon!
Mae’r ddwy albwm wedyn, Dyddiau Du Dyddiau Gwyn (2010) a Draw Dros y Mynydd (2012) yn teimlo’n perthyn – mi wnaethon ni recordio’r ddwy yn eithaf agos at ei gilydd, yn yr un stiwdio, yn yr un dull, a gyda’r un cynhyrchydd (David Wrench). Roedd y rhan fwyaf o ganeuon y ddwy albwm wedi eu hysgrifennu tua’r un cyfnod (rhai ohonynt tua’r un cyfnod a’r albwm gyntaf). Mi gafodd y ddwy eu recordio’n gyflym iawn – rhyw 4 neu 5 diwrnod i gyd ar gyfer recordio a chymysgu. Dyma’r ddwy albwm sefydlodd ni fel band dwi’n meddwl, ac maen nhw’n teimlo’n rhan o’r un peth.
Roedd ‘IV’ (2016) wedyn yn wahanol. Ni ein hunain gynhyrchodd hon. Ar un llaw mae tua hanner yr albwm yn weddol typical o’n sain ni, ac mae’r hanner yna yn parhau yn y set fyw. Roedd yr hanner arall yn fwy o ‘sŵn stiwdio’ na sŵn byw, a dipyn mwy o ôl-gynhyrchu ac arbrofi cyn cyrraedd y gwaith terfynol. Proses wnes i fwynhau’n fawr, ond proses hir!
Mae’r albwm newydd yn teimlo rhywle rhwng y lleill o ran y broses – er iddi gymryd cyfnod hir o amser, dim ond llond llaw o sesiynau recordio gafwyd yn y cyfnod yna, ac roedden nhw’n gynhyrchiol iawn. Dwi’n meddwl ein bod ni’n well cerddorion ac yn well offerynwyr bellach, felly roedd popeth yn symud yn gynt, ac roedd y targed yn fwy clir i ni o’r cychwyn dwi’n meddwl.
Pawlie: Mae cerddoriaeth y band yn cysylltu â phobl dros Gymru a’r byd. Oes unrhyw beth penodol dych chi’n cadw mewn cof wrth sgwennu a recordio?
Aled: Dwi wastad yn anelu i drio ffeindio’r emosiwn mewn darn o gerddoriaeth, a cheisio cyflwyno hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol. Dydi hynny ddim yn newid o weithio gyda fy mand fy hun. Dwi wastad yn trio cadw’r teimlad cyntaf yna o glywed cân mewn cof wrth recordio, a thrio peidio colli golwg ar hynny.
Pawlie: Oes unrhyw gynlluniau ar ôl eich taith eleni?
Aled: Bydd y daith yn mynd trwy fis Mawrth hyd at ddiwedd Ebrill. Mae dipyn o wyliau cerddorol wedi eu trefnu wedi hynny, a dan ni’n gobeithio medru gorffen y flwyddyn mewn steil! Mi fyddai’n braf ail-gychwyn y recordio rhywbryd yn weddol fuan, ond dwi ddim yn gweld hynny’n digwydd yn 2024.
Cowbois Rhos Botwnnog ar Daith:
- 8 Mawrth – Galeri, Caernarfon
- 9 Mawrth – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
- 15 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
- 22 Mawrth – Theatr Derek Williams, Y Bala
- 23 Mawrth – The Bunkhouse, Abertawe
- 12 Ebrill – Neuadd y Dref, Llanfairfechan
- 19 Ebrill – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
- 20 Ebrill – Neuadd Dwyfor, Pwllheli