“Nid yw pawb sy’n crwydro ar goll.”
Dyna eiriau J. R. R. Tolkien yn ei gerdd The Riddle of Strider – a oedd wedi’i hysgrifennu’n wreiddiol ar gyfer The Fellowship of the Ring yn 1954.
Ro’n i’n synfyfyrio ar hyn wrth i fi yrru o gwmpas Sir Benfro yn ystod fy Anturiaeth Gymreig Wallgof y llynedd. Ro’n i newydd yrru o fy llety yng Nghaerfyrddin i Dyddewi i weld dinas leiaf y Deyrnas Unedig, a nawr ro’n i ar y ffordd i fy ail stop: Pen Strwmbwl, gyda goleudy hyfryd ar Ynys Meicel ar hyd arfordir Sir Benfro, ger Abergwaun.
Nid oedd yn bell o Dyddewi i Ben Strwmbwl, ond cymerodd dipyn o amser!
Do’n i erioed wedi gyrru “ar y chwith” o’r blaen – a hynny er gwaethaf llawer o ymweliadau a’r DU dros y blynyddoedd. Felly ro’n i’n ofalus iawn ar y ffyrdd yn ystod fy nhaith.
Mae llawer ohonon ni wedi dysgu “y ffordd anodd” – profiad ofnadwy yw cael damwain car, hyd yn oed ar ffyrdd cyfarwydd. Felly mae’r syniad o gael damwain ar wyliau – hanner ffordd o gwmpas y byd – yn, wel… arswydus!
Ro’n i’n nerfus ar y dechrau, ond erbyn i fi gyrraedd Cymru ro’n i wedi setlo i lawr ac yn dod yn gyfforddus ar y ffyrdd. Ro’n i’n ffodus i osgoi problemau, a dysgais lawer o wersi ar hyd y ffordd (mwy am hyn mewn colofn yn y dyfodol).
Ond roedd digon o gyffro o hyd!
Yn yr ardaloedd mwy gwledig, roedd y SatNav yn fy nghyfeirio, yn annisgwyl, i lawr lonydd cul drwy ganol ffermydd er mwyn cysylltu â ffyrdd eraill. Gydag amser, byddwn i’n dod i ymddiried yn Siri – ac yn “mynd gyda’r llif” fel petai.
Er enghraifft… Weithiau byddwn i’n ddryslyd ar ôl cael fy nhywys mewn cylch enfawr gan Siri.
Ond yn Sir Benfro (a Sir Gâr) mae’r golygfeydd mor hardd, ro’n i’n hapus i stopio ar yr ail dro i dynnu lluniau.
Roedd rhaid i fi yrru drwy lawer o lonydd cul – rhy gul i basio heb grafu’r car ar y llwyni oedd yn tyfu ar ochr y lôn.
Ar y lonydd yma, ro’n i weithiau yn gorfod stopio i adael i gerbydau eraill fynd heibio yn y cyfeiriad arall. Doedd hyn erioed wedi achosi problem o gwbl, ac roedd pawb ar y ffyrdd yn foesgar iawn i mi. Heb eithriad. Gwahanol iawn i Galiffornia!
Yn y pen draw, cyrhaeddais oleudy Pen Strwmbwl ar Ynys Meicel. Tynnais luniau o’r goleudy a’r golygfeydd ysbrydoledig i fyny ac i lawr yr arfordir, cyn cerdded tuag at y goleudy i fynd i mewn. Yn anffodus roedd y bont draw i’r goleudy ar gau, felly byddai’n rhaid i luniau fod yn ddigon!
Ar y ffordd yn ôl i fy llety ar ddiwedd y dydd, roedd rhaid i fi stopio’n annisgwyl unwaith eto — y tro yma i aros wrth i wartheg groesi’r ffordd.
Eisteddais yn fy nghar am 5-10 munud, yn mwynhau gwylio fy ffrindiau Cymreig pedair coes yn cerdded yn araf o un cae i’r llall. Roedd yn brofiad heddychlon, ac yn ffordd berffaith i orffen y diwrnod.
Dechreuais i feddwl, “Tybed pa fath o berson fyddwn i, taswn i’n byw mewn ardal fel hyn?” Ond er fy mod i wedi bod “ar goll” yn Sir Benfro, des i o hyd i fy hun.
Byddai Tolkien yn falch.