“Mynd amdani a dechrau nawr” yw neges un o siaradwyr newydd yr Urdd i’r rhai sy’n ystyried dysgu Cymraeg.

Mae unigolion, partïon a chorau o ddysgwyr o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, wedi cystadlu yn yr Urdd am y tro cyntaf eleni.

Y llynedd, roedd cystadleuaeth corau dysgwyr am y tro cyntaf, gyda chwe chôr yn cystadlu.

Eleni, roedd 24 côr wedi cystadlu mewn eisteddfodau cylch.

Heddiw (dydd Mercher, Mai 29), mae’r Urdd yn dathlu siaradwyr Cymraeg newydd.

Mae Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol yr Urdd, yn siaradwr newydd.

Yn ei swydd, mae’n gweithio gyda chymunedau amrywiol fel Trelluest (Grangetown) a Thre-biwt yng Nghaerdydd, yn rhoi cyfleoedd chwaraeon a gwirfoddoli i blant a phobol ifanc.

“Mae’n bwysig iawn creu cyfleoedd i blant drwy chwaraeon, achos mae chwaraeon yn bwysig i ddatblygiad plant; mae pawb yn cael cyfle i chwarae a chadw’n heini,” meddai Nooh Ibrahim wrth lingo360.

“Dw i’n gweithio gyda phlant sydd ddim yn siarad Cymraeg a phlant sydd yn siarad Cymraeg, ac mae’r plant sydd ddim yn siarad Cymraeg yn dysgu drwy chwaraeon, achos mae chwaraeon yn hwyl ac mae’r plant ddim eisiau eistedd yn y dosbarth a dysgu Cymraeg.

“Maen nhw eisiau rhedeg o gwmpas a chadw’n heini, a dw i’n dysgu tipyn bach iddyn nhw – rhifau ac ati.

“Darn wrth ddarn.”

Taith iaith Nooh Ibrahim

Roedd Nooh Ibrahim wedi dechrau dysgu Cymraeg tua blwyddyn a hanner yn ôl, ar ôl cael gwersi yn y gwaith gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“I ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod Cymraeg yn anodd, ond na… dim yn anodd o gwbl.

“Mae cymunedau siarad Cymraeg yn supportive iawn, maen nhw’n dathlu ti a helpu ti i siarad.

“Mae cymunedau sy’n siarad Cymraeg yn annog ti a helpu chdi i ddysgu.

“Os wyt ti eisiau dysgu Cymraeg, mynd amdani a dechrau nawr!”

Mae’r Urdd a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig gwersi Cymraeg yn y gwaith i staff yr Urdd, gan gynnwys pobol o Wcráin sy’n gweithio yn y gegin yng Ngwersyll Llangrannog.

@golwg360

“Mynd amdani a dechrau nawr” yw neges un o siaradwyr newydd yr Urdd i’r rhai sy’n ystyried dysgu Cymraeg 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Un o rheiny ydy Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol yr Urdd, sy’n gweithio mewn cymunedau amrywiol megis Trelluest (Grangetown) a Thre-biwt yng Nghaerdydd, yn rhoi cyfleoedd chwaraeon a gwirfoddoli i blant a phobol ifanc. #cymru #eisteddfod #dysgucymraeg

♬ original sound – golwg360