Pan ddechreuais i ddysgu Cymraeg fel oedolyn, fe wnes i gymryd pob cyfle i wella fy ngeirfa a’m sgiliau iaith. Tanysgrifiais i Lingo Newydd (a dw i’n dal i wneud!), gwrando ar Radio Cymru yn y car, gwylio dramâu ar S4C (ond gyda’r isdeitlau Saesneg, rhag ofn), a darllen llyfrau.
Dim ond nes i fi wneud lefel Canolradd, wnes i ddod yn hyderus wrth ddarllen llyfrau Cymraeg. Dw i’n hoffi ffuglen, ond bob amser yn poeni bod y rhan fwyaf o lyfrau sydd ar gael y tu hwnt i’m gallu. Ond mae’r gyfres o lyfrau ar gael i ddysgwyr fel Amdani, wedi’u hanelu at bob lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Mae cymysgedd o ffuglen, ffeithiol, comedi, hanes a dirgelwch.
Nid yw’r rhan fwyaf o’r llyfrau yn hir (fel arfer llai na 100 tudalen), ac maen nhw hefyd yn cynnwys geirfa. Yn y dyddiau cynnar, roeddwn i’n aml yn arfer estyn am fy ffôn i ddefnyddio’r apiau geiriadur ond, dros amser, roeddwn i’n eu defnyddio llai a llai. Erbyn i fi wneud lefel Uwch, roeddwn i’n gallu mynd trwy dudalennau cyfan heb orfod stopio.
Dw i ddim yn meddwl y bydda’i byth yn teimlo’n rhugl yn y Gymraeg ond dw i’n deall yr iaith yn well pan dw i’n darllen. Dyma rai o’r llyfrau wnes i fwynhau eu darllen fel dysgwr.
‘e-Ffrindiau’ gan Lois Arnold
Dyma’r llyfr cyntaf wnes i ddarllen fel dysgwr. Mae Sara yn byw yng Nghaerdydd, a Ceri yn Awstralia. Maen nhw’n cadw mewn cysylltiad drwy e-bost a dyn ni’n dysgu am eu bywydau. Mae’r llyfr wedi’i ysgrifennu fel negeseuon e-bost gan y ddwy fenyw. Roedd yn llawer haws ei ddeall nag yr oeddwn i’n meddwl y byddai a phan wnes i orffen y llyfr, roeddwn i’n falch ohonof fy hun!
‘Castell Dracula’ gan Bob Eynon
Cefais fy nghyflwyno i’r llyfr hwn trwy diwtor Cymraeg a roddodd un o’r penodau i ni eu darllen yn y dosbarth. Dw i ddim yn gallu ymdopi gwybod rhan o stori yn unig, felly roedd yn rhaid i mi ddarllen y llyfr cyfan. Mae’r llyfr yn fyr – fasach chi’n gallu ei ddarllen yn eich amser cinio.
Yn y llyfr hwn, daw dau frawd a chwaer ar draws hen gastell sy’n eiddo i hen ddyn, lle mae rhywbeth rhyfedd yn y seler…
‘Modrybedd Afradlon’ gan Mihangel Morgan
Wrth i fi ysgrifennu am y llyfr yma, dw i’n ffeindio fy hun yn chwerthin eto achos o’n i’n caru’r merched yn y stori yma! Mae gan Marc ddwy fodryb yn eu saithdegau sy’n ddireidus iawn. Mae’r stori yn dilyn helyntion gwyllt y modrybedd. Mae’r llyfr hwn yn dal i fod yn un o fy ffefrynnau.
‘Cysgod yn y Coed’ gan Lois Arnold
Mae gen i sawl llyfr gan Lois Arnold gan ei bod hi wir yn deall anghenion dysgwyr. Dyma gasgliad o straeon byrion ysgafn sy’n sôn am ddigwyddiadau bob dydd y mae llawer ohonom yn eu profi.
‘Gêm Beryglus’ gan Richard MacAndrew
Wedi’i addasu gan Pegi Talfryn, colofnydd Lingo360, mae hwn yn ddirgelwch gwefreiddiol lle mae’n rhaid i’r heddlu ddod o hyd i lofrudd yn ardal Bannau Brycheiniog. Fydda’i ddim yn mynd am dro yno ar ben fy hun ar ôl darllen hwn, mae hynny’n sicr!
‘Enwogion Cymru’ gan Malcolm Llywelyn
Wnes i gymryd hoe o ffuglen i ddarllen y casgliad hwn am ffigyrau hanesyddol enwog Cymru fel Dewi Sant, Llywelyn ap Gruffudd, Owain Glyndŵr, Iolo Morgannwg a mwy. Gallai’r straeon yn hawdd fod yn rai ffuglen!
‘Cyffesion Saesnes yng Nghymru’ gan Sarah Reynolds
Mae Katie wedi symud i Gymru ar ôl priodi’r Cymro Dylan ac maen nhw’n byw gyda rhieni ei gŵr. Mae Katie yn dysgu Cymraeg, ond sut fydd hi’n addasu i’r diwylliant newydd yma, a sut fydd ei rhieni yng nghyfraith yn ymdopi gyda hi?! Roeddwn i’n hoff iawn o hiwmor y stori yma.
Cyfres ‘Blodwen Jones’ gan Bethan Gwanas
Bridget Jones Cymru ydy Blodwen ond, yn fy marn i, mae’n llawer mwy doniol! Dyma gyfres o dri llyfr am y llyfrgellydd sy’n dysgu Cymraeg a’i bywyd carwriaethol trychinebus.
‘Cadwyn o Flodau’ gan Sonia Edwards
Mae Lia yn ceisio dianc rhag gorffennol trist ond mae hi’n sownd mewn priodas ddiflas gyda gŵr hunanol. Daw gweinidog newydd i’r plwyf ac mae Lia yn sylweddoli ei bod hi’n haeddu bod yn hapus ac yn dechrau cael anturiaethau. Roeddwn i’n gallu uniaethu efo Lia oherwydd cefais fagwraeth lem. Doeddwn i ddim wir wedi dechrau ‘byw’ nes i fi symud i fy nhŷ fy hun, ddeuddydd cyn fy mhen-blwydd yn 31 oed! Ac eithrio’r ‘blynyddoedd Covid’, dw i wedi bod yn cael llawer o anturiaethau!
‘Y Tŷ ar Lôn Glasgoed’ gan Sonia Edwards
Os dw i’n ffeindio awdur dw i’n hoffi, byddaf yn darllen mwy o’u gwaith. Dyma’r ail lyfr gan Sonia Edwards yn fy rhestr, ond y tro hwn stori arswyd sydd yma – sef y math o stori dw i’n hoffi! Mae’r stori’n troi o gwmpas tŷ gwag, pobl ifanc sy’n cymryd cyffuriau, ac ysbryd merch ifanc.
Wrth ail-edrych ar y llyfrau yma, mae wedi gwneud i mi fod eisiau mynd yn ôl at y pentwr o lyfrau Cymraeg yn fy ystafell sbâr dw i heb eu darllen eto. Mae’n bryd canslo tanysgrifiad Netflix…!