Ieuan Jacka ydy enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe 2024.
Heulwen ydy ffugenw yr enillydd.
Roedd pedwar o bobol wedi cystadlu.
Mae’r gerdd fuddugol yn “ddiddorol iawn”, yn “ceisio dweud rhywbeth arbennig” ac yn “gyfanwaith“, meddai’r beirniad Emyr Jones.
Mae’r gerdd yn edrych ar y traeth yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Traeth
Pan o’n i’n ifanc,
O’n i’n caru’r traeth.
Lle i ddianc,
O’n i’n hoffi’r daith.
Pan o’n i’n ifanc,
O’n i’n nofio yn y môr.
Sai’n sicr pa un oedd yn waeth,
Mam yn dweud “Tyd ‘laen, awn ni” neu fi’n teimlo’n oer.
Pan o’n i’n ifanc,
Clywais fy ffrindiau’n chwerthin,
Hoffwn os allwn aros yno,
mor heddychlon; profiad prin.
Nawr rydw i’n ugain,
Dwi’n teimlo’n ddeimladol,
Ond, yn ôl y newyddion,
Mae’n nhw’n dweud bod rhywbeth yn wahanol.
Nawr rydw i’n ugain,
Mae’n nhw’n dweud bod yna sbwriel diangen,
“damweiniol” ac estron,
pethau sydd yn difetha’r gragen.
Nawr rydw i’n ugain,
Dydy’r traeth ddim yn debyg,
Mae’r tonnau’n gweiddi’n groch,
Ac yn rhuo ar y tywod gryg.
Pan rydw i yn saithdeg,
Gobeithiaf bod pobl yn sylweddoli beth mae’n nhw wedi’i wneud,
Y gweithredoedd maent wedi eu cymryd,
sydd yn frawychus, os ga i ddweud.
Pan rydw i’n saithdeg,
Hiraethaf am y môr i fod yn dawel,
A peidiwch â phoeni os cynhyrfwn yr ymwelwyr,
Byddem wedi cael ei hudo gan yr awel.
Pan rydw i’n saithdeg,
Gwelaf y cefnfor las yn sgleinio,
Pan rydw i’n saithdeg,
Gobeithiaf fy mod i’n teimlo’n yn ifanc unwaith eto.