Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn bob mis i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n dweud sut mae enwau’n gallu newid pan mae iaith y gymuned yn newid…

Un o’r pethau braf (ac mae nifer ohonyn nhw) am fod yn Swyddog Enwau Lleoedd yw’r ffaith bod y gwaith yn ymestyn dros Gymru gyfan. Mae’n rhoi’r cyfle i mi ddod i adnabod ardaloedd yng Nghymru nad ydw i erioed wedi bod iddyn nhw. Hyd yn oed os nad ydw i’n gallu teithio i ryw le, dwi’n gallu ymweld ag o’n rhithiol trwy astudio enwau lleoedd y cylch.

Eglwys Catwg Sant Llun: Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Lle felly yw Llangatwg Lingoed. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i wedi cael y cyfle i dreulio llawer o amser yn Sir Fynwy, a dwi erioed wedi bod ar gyfyl Llangatwg Lingoed ei hun.

Ond amser maith yn ôl anfonodd gŵr o’r pentref fap o enwau caeau’r plwyf ataf i, a dwi wedi cael yr amser, o’r diwedd, i’w hychwanegu nhw at y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol.

Mae Llangatwg Lingoed yng ngogledd-ddwyrain Sir Fynwy, heb fod yn bell o’r ffin. Mae’r eglwys wedi’i chysegru i Sant Cadwg, fel mae’r enw’n awgrymu, ac mae’n debyg bod llingoed yn golygu coed hir, syth.

Roedd fforest fawr yn yr ardal yn yr Oesoedd Canol, ac mae’n ddigon posib mai at honno y mae’r enw’n cyfeirio.

 

Caeau Llangatwg Lingoed

Mae enwau’r caeau a gafodd eu rhoi i mi’n rhai diddorol iawn. Mae’r rhai hynaf yn dyddio o 1735 pan werthwyd ffermydd Little Campston a Pentre. Er bod y sillafu’n hen ffasiwn, maen nhw i gyd yn enwau Cymraeg, megis Cae skiber (Cae Ysgubor) neu Cae quarrell (Cae chwarel).

Yn anffodus, doedd y cyfnod ddim wedi dod gyda map, felly dydy hi ddim wedi bod yn bosib i’w lleoli nhw i gyd, ac eithrio, efallai Gworlod shop y gove, gan fod ’na efail wrth ymyl un o’r caeau ar ochr y fferm.

Erbyn 1821 pan gafodd tir ar ochr gorllewinol y plwyf ei werthu, roedd enwau Saesneg wedi dechrau ymddangos ar rai o’r caeau. Wrth ymyl Cae pen aur, er enghraifft, mae Quarry Field, ac mae Cae dan y coed a Pasture by the house wrth ochr ei gilydd. Beth sy’n ddiddorol yw bod ni’n gweld fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r un enw ochr yn ochr yn aml, fel Cae pistil a Well field, neu Cae Nant y Carw a Nant y Carw Meadow. Mae hynny o bosibl yn awgrymu bod y trigolion wedi anghofio beth oedd ystyr yr enwau Cymraeg, ac yn eu defnyddio nhw fel enwau’n unig, yn lle fel disgrifiadau, a bod yn rhaid bathu enwau newydd Saesneg i roi enwau ystyrlon i’r caeau. Nant y Carw yw enw’r nant sy’n llifo trwy’r plwyf.

Old Court
Llun: © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae’r enwau diweddaraf y cawson ni’n dyddio o 1887, pan werthwyd fferm Old Court. Er bod nifer ohonyn nhw’n enwau Cymraeg o hyd, fel Cae’r Eglwys, erbyn hynny roedd dros hanner enwau’r caeau a oedd yn rhan o’r fferm yn rhai Saesneg.

Pan mae iaith y gymuned yn newid, mae mân-enwau, hynny yw, enwau sydd ddim yn ymddangos ar fapiau neu arwyddion, yn diflannu’n raddol, wrth iddyn nhw golli eu hystyr i’r gymuned, sydd bellach ddim yn gallu eu deall nhw.