Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.
Mwynhewch!
Dyma’r dasg wythnos yma:
Edrycha ar fap o Gymru. Cau dy lygaid a phwyntia at y map.
Ble bynnag rwyt ti’n pwyntio dy fys ydy lleoliad stori arswyd. Beth sydd wedi digwydd yno?
Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.