Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.
Mwynhewch!
Dyma’r dasg y tro yma:
Beth ydy dy hoff fwyd di?
Pam?
Disgrifia sut mae’n edrych a blasu.
Disgrifia sut mae’n teimlo yn dy geg ac yn dy fol.