Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Dyma’r olaf o’r tasgau Hwyl Gyda geiriau. Fe fydd tasgau newydd wythnos nesa!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Ysgrifenna lythyr fydd yn cael ei ddarllen mewn 100 mlynedd. Disgrifia sut le ydy’r byd ar hyn o bryd, a pham.

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Dach chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.