Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.
Mwynhewch!
Dyma’r dasg wythnos yma:
Does neb erioed wedi gweld llwy o’r blaen. Disgrifiwch lwy, ac esboniwch pam mae’n beth da.
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.