Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.

Mwynhewch!

Beth sy’n dy wneud di’n flin/grac? Disgrifa fo.

Sut wyt ti’n teimlo’n gorfforol pan rwyt ti’n meddwl amdano fo?

Sut faset ti’n hoffi ei newid?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.