Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Cnoc! Cnoc!

Pwy sy ’na?

Ceri.

Ceri pwy?

Cer i ffwrdd!

Ysgrifennwch eich jôc cnoc cnoc eich hun – yn Gymraeg, wrth gwrs!

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.