Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Rwyt ti wedi creu tabled sy’n ei gwneud hi’n bosib dysgu Cymraeg yn rhugl o fewn wythnos. Beth wyt ti’n mynd i’w wneud?

Ei gwerthu a gwneud ffortiwn? Ei rhoi i’r Llywodraeth?

Ei rhoi yn y dŵr? Dweda beth, yna rho dy resymau.

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.