Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Ysgrifenna dy enw di i lawr mewn llinell:

P

E

G

I

Yna ysgrifenna ddisgrifiad ohonot ti sy’n dechrau gyda’r llythrennau:

Pert

Eclectig

Galluog

Iasol

(mae gweiadur.com yn dda iawn i ddod o hyd i ddisgrifiadau!)

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Dach chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.