Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.
Mwynhewch!
Rwyt ti wedi cael gwahoddiad i fod yn un o’r bobl gyntaf ar y blaned Mawrth. Beth wyt ti’n mynd i’w gario i gadw’n hapus ar y daith hir?
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.