Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.
Mwynhewch!
Dyma’r dasg wythnos yma:
Ysgrifenna hysbyseb am bowdr golchi.
Os wyt ti wedi eu dysgu, ceisia ddefnyddio ffurfiau fel yn wynnach na, yn lannach na.
Dyma rai geiriau defnyddiol:
Peiriant golchi
Dillad
Eira
Gwyn
Budr
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.