Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Meddylia am lyfr sy wedi troi’n ffilm (ee Lord of the Rings). Pa fersiwn sy’n well? Pam? Ysgrifenna dy resymau.

Patrymau i’w defnyddio:

Mae’n well gen i…. achos / Mae’n well gyda fi… achos…