Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Sefwch o dan goeden (neu ddychmygwch eich bod chi o dan goeden).  Beth dach chi’n gallu gweld a chlywed? Rŵan disgrifiwch goeden i rywun sy erioed wedi gweld un o’r blaen.

Geirfarhisgl / gwreiddiau / siffrwd

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.