Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.
Mwynhewch!
Dyma’r dasg wythnos yma:
Sefwch o dan goeden (neu ddychmygwch eich bod chi o dan goeden). Beth dach chi’n gallu gweld a chlywed? Rŵan disgrifiwch goeden i rywun sy erioed wedi gweld un o’r blaen.
Geirfa: rhisgl / gwreiddiau / siffrwd
Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.