Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.
Mwynhewch!
Dyma’r dasg wythnos yma:
Tasai ti’n anifail, pa anifail faset ti? Pam? Ysgrifenna am dy ddiwrnod cyntaf yn byw fel yr anifail yna. Dyma luniau i’ch ysbrydoli – cath, eliffant, a bochdew.
Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.