Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.

Mwynhewch!

Wrth ddathlu Dydd Santes Dwynwen, gwyl y cariadon, heddiw (Ionawr 25) beth am feddwl am frawddegau bachu?

Mae ’na rai ofnadwy yn Saesneg, fel “rhaid bod y nefoedd yn drist, o fod wedi colli angel fel ti”.

Beth am gyfieithu rhai ohonyn nhw i’r Gymraeg, neu feddwl am rai newydd yn Gymraeg?

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

 

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.