Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen. Mwynhewch!

Ysgrifennwch ddyddiadur y Prif Weinidog (Cymru neu’r Deyrnas Unedig).

Un frawddeg i bob dydd.

Dyma syniadau i’ch helpu…

Dydd Llun

Dw i wedi cael diwrnod da/ofnadwy heddiw.

Dydd Mawrth

Mae cath Rhif 10 wedi dod yn ôl. Hwre!

Dydd Mercher

Mae cinio mawr yn Stryd Downing heno – mae Joe Biden yn dod o America i weld fi.

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.