Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.

Mwynhewch!

Teledu

Beth ydy’r dechnoleg dach chi’n defnyddio bob dydd? Rhowch nhw mewn rhestr, gyda’r un mwya pwysig yn gyntaf.

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.