Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Sut wyt ti’n medru perswadio pobl i dy hoffi di?

Beth ydy’r pethau da rwyt ti’n gallu rhestru?

Mae’n bosib dechrau brawddegau fel hyn:

Dw i’n berson caredig

Dw i’n gallu….

Mae gen i… / Mae… gyda fi…