Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Atebwch y cwestiynau i wneud deialog:

  1. Helo. Sut wyt ti?
  2. ………………………………..
  3. A sut mae Asiant X?
  4. ………………………………..
  5. Wyt ti’n dal i fyw mewn twnel?
  6. ………………………………..
  7. Wyt ti’n dal i weithio i M16?
  8. ………………………………..
  9. A sut mae’r tywydd yn Antarctica?
  10. ………………………………..
  11. A beth wyt ti’n mynd i neud fory?
  12. ………………………………..

 

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.