Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Sylfaen.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Beth mae hi’n bwrw glaw? Pan mae hi’n bwrw glaw yn drwm, maen nhw’n dweud Mae hi’n bwrw hen wragedd a ffyn. Mae rhai pobl yn dweud Mae hi’n bwrw cyllyll a ffyrc.

Dach chi’n gallu meddwl am rywbeth newydd? Beth am Mae hi’n bwrw pys a ffa

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.