Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Ar Werth!  Ysgrifenna hysbyseb i werthu dy dŷ di.

Rhaid bod yn hollol onest, ond mae’n bosib gweld yr ochr dda i bethau.

Er enghraifft, mae’n bosib bod y lle yn cynnig posibiliadau gwych i rywun sy’n hoffi addurno, neu o bosib bod y corff yn yr ardd yn dda iawn fel gwrtaith i’r ardd!

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.