Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.

Mwynhewch!

Rwyt ti wedi bwcio gwyliau traeth am bythefnos. Pan rwyt ti’n cyrraedd y traeth, rwyt ti’n sylweddoli ei bod yn draeth i noethlymunwyr, a does dim traeth arall yn yr ardal. Beth wyt ti’n ei wneud?