Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Fysech chi’n hoffi bod yn James Bond?

Taset ti’n gallu byw dy fywyd tu fewn i ffilm, pa ffilm fyddai hi?

Pam?

Beth faset ti’n ei wneud yno?

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.