Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Disgrifiwch y lliw melyn.

Ydy’r lliw yma yn gwneud ti’n hapus?

Ydy melyn yn gwneud i ti deimlo’n gynnes?

Ydy melyn yn atgoffa ti o’r haul, yr haf, blodau, neu fêl?

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.