Beth am gael hwyl gyda geiriau? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Canolradd.

Mwynhewch!

Dyma’r dasg wythnos yma:

Beth ydy’r newid mwya’ yn y byd yn ystod dy fywyd di? Pam? Beth ydy effaith y newid yma ar bawb?

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni?

Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.