Mae’r nofel i ddysgwyr Lefel Uwch, Fi, a Mr Huws, wedi cael ei ail-gyhoeddi wythnos hon.
Mae’r fersiwn newydd wedi’i addasu i fod yn rhan o gyfres Amdani. Dyma’r gyfres ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Cafodd cyfres Amdani ei lansio yn 2018. Erbyn heddiw mae yna dros 40 o lyfrau yn y gyfres.
Yn y nofel, mae’r eirfa a’r patrymau iaith wedi cael eu haddasu ac mae hefyd yn cynnwys geirfa ar waelod pob tudalen.
Mae Siân Esmor yn olygydd i Y Lolfa ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n dweud: “Drwy ddod yn rhan o gyfres Amdani, mae dysgwyr lefel Uwch yn gwybod y byddan nhw’n medru darllen a deall y nofel gan ei bod hi wedi ei haddasu ar gyfer y lefel y maen nhw arni ar hyn o bryd.”
Mared Lewis ydy awdur Fi, a Mr Huws. Mae hi hefyd yn diwtor Cymraeg ac yn byw yn Ynys Môn. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360. Cofiwch gymryd rhan yn ein cystadleuaeth i ennill copi o’r llyfr! Mae’r manylion i gyd ar waelod y dudalen.
Mared, sut fasech chi’n disgrifio Fi, a Mr Huws?
Nofel ydy hi am berthynas gŵr a gwraig pan mae’r nyth yn wag. Mae unig fab Lena wedi mynd i’r brifysgol, ac mae hynny yn arwain at gwestiynu be sydd ar ôl o berthynas Lena a’i gŵr Ben. Ac ydy Ben yn cuddio rhywbeth?
Mae yma ddirgelwch, Goths, dawnsio llinell efo ffrindiau, ac un ci bach annwyl, mewn nofel sy’n gyrru’r darllenydd i ddarllen ymlaen, gobeithio!
At bwy mae’r nofel wedi’i hanelu?
Mae hi wedi ei hanelu at ddysgwyr lefel ‘Uwch’ yn bennaf, ac fel arfer yn y gyfres Amdani mae’r geiriau newydd ar waelod pob tudalen. Felly, mae’r darllenydd yn medru mwynhau darllen heb orfod chwilio gormod am ystyr geiriau.
Dw i’n diwtor Cymraeg fy hun dan Brifysgol Bangor. Mi wnes i sgwennu’r nofel yn wreiddiol yn 2017, achos ro’n i’n gweld bod angen mwy o lyfrau ar y lefel yma i ddysgwyr ar y pryd.
Ro’n i eisiau sgwennu nofel fodern oedd yn teimlo fel darllen llyfr ‘go iawn’. Roedd hi’n bwysig i mi fod y darllenydd yn medru ymlacio yn yr iaith wrth ddarllen, ac ella anghofio bod nhw’n darllen llyfr i ddysgwyr!
Erbyn hyn, mae llawer o lyfrau gwych gan lawer o awduron gwahanol yn y gyfres Amdani, ac mae ‘na lyfrau ar gyfer pob lefel o’r cyrsiau Dysgu Cymraeg. Mae’r gyfres Amdani wedi gweithio’n wych!
Ydy’r nofel wedi newid o gael ei haddasu ar gyfer cyfres Amdani?
Mi wnaeth Siân Esmor edrych eto ar y nofel a gwneud yn siŵr ei bod hi’n ffitio yn berffaith i’r patrymau a’r eirfa sydd ar lefel Uwch y cwrs. Tydi’r stori na’r cymeriadau na ‘theimlad’ y nofel ddim wedi newid o gwbl, ac mae rhan fwyaf o’r ddeialog hefyd wedi aros yr un fath.
Dw i’n gobeithio bydd pobol yn mwynhau darllen a dod i nabod cymeriadau Fi, a Mr Huws!
Mae Fi, a Mr Huws gan Mared Lewis ar gael nawr (£7.99, Y Lolfa).
Cystadleuaeth!
Dych chi eisiau ennill copi o Fi, a Mr Huws?
Y cwbl sydd angen gwneud yw ateb y cwestiwn yma:
Pryd cafodd cyfres Amdani ei lansio?
Mae dau gopi o’r llyfr ar gael i’r enillwyr.
Anfownch eich ateb at lingonewydd@golwg.cymru gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffon neu ebost. Bydd Y Lolfa yn anfon copi o’r llyfr at y ddau enillydd.