Y tro yma, Ynyr Gruffudd Roberts sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon. Mae Ynyr yn gyfansoddwr/cynhyrchydd. Mae’n dod o Lanrug ger Caernarfon yn wreiddiol a rŵan yn byw yng Nghaerdydd.
Roedd Ynyr wedi dechrau prosiect pop arbrofol o’r enw Popeth yn 2022. Roedd wedi dechrau’r prosiect am ei fod yn teimlo bod dim digon o gerddoriaeth electro-pop yn yr iaith Gymraeg i’w chlywed ar y radio.
Roedd wedi dechrau’r prosiect er mwyn cyd-weithio efo artistiaid newydd i gynhyrchu cerddoriaeth pop positif i lenwi’r gwagle hwnnw.
Mae Popeth wedi rhyddhau tair sengl eleni, yn gweithio gydag artist gwahanol ar bob trac gan gynnwys Tesni Jones (Rhywun yn Rhywle), Leusa Rhys (Dal y Gannwyll) a Tara Bandito a Gai Toms, ar ei sengl ddiweddaraf, Zodiacs.
Rŵan, mae Ynyr wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr gerddoriaeth y DU sef Gwobrau Cymdeithas Cerddoriaeth Annibynnol (AIM) 2024.
Mae Ynyr yn dweud: “Mae’n grêt cael cydnabyddiaeth i fy ngherddoriaeth ac yn fraint i gael fy nghynnwys yn yr un categori â Kelly Jones o’r Stereophonics a’r artistiaid eraill… mae’r enwebiad yma yn golygu popeth i mi!”.
Bydd seremoni Gwobrau AIM 2024 yn cael ei chynnal yn y Roundhouse yn Llundain ddydd Iau, 17 Hydref.
Pa ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?
Heddiw (Nar) – dyma gân sydd o hyd yn rhoi gwên a rhyw deimlad o elation yndda’i pan dw i’n ei chlywed – dw i’n teimlo fod y gân yma yn anthem i glodfori teimladau da!
Dw i hefyd yn hoffi Cantores yr Haf (Gabrielle Twenty Five).
Mae’r gân hon o hyd yn fy ngwneud yn hapus ac yn fy atgoffa o dywydd braf yr haf!
Pa ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?
Enfys yn y Glaw (Kizzy Crawford) – dyma gân roeddwn i’n troi ati’n aml ar adegau anodd yn ystod y cyfnod clo. Mae’n alaw hyfryd a geiriau oedd yn addas iawn ar gyfer yr adeg go anodd yna.
Can’t Hate You Yet (Catty) – Mae gan Catty (cerddor o Gaernarfon) ganeuon gwych iawn – ond mae rhywbeth mor bwerus ac emosiynol am alaw’r gân a’r ffordd mae Catrin yn ei chanu hefyd.
Pa ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?
Fratolish Hiang Perpeshki (Gwenno) – er dw i ddim yn gwybod yn iawn sut i ynganu teitl y gân hon. Mae curiadau ac alaw’r gân yn fy swyno i ddawnsio!
Mwydryn (Melin Melyn) – Gyda pherthynas agos a pherthynas o bell yn aelodau o’r band, a finnau wedi gwrando gymaint ar eu caneuon ers i’r band ffurfio, dw i’n siŵr mod i wedi dawnsio i’r gân hon a nifer o ganeuon eraill Melin Melyn dros y tair blynedd dwetha.
Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi a pham?
Un o fy hoff albyms ydi Codi/\Cysgu gan Yws Gwynedd. Mae’n albym sy’n cynnwys pob math o emosiynau a gwrando arni’n siwrne ddifyr o nodyn gynta’r gân agoriadol i’r diweddglo. Dw i’n troi at yr albwm yn aml. Pan dw i’n teithio yn y car, yn golchi llestri – dw i’n hoffi gwrando arni tra’n rhedeg hefyd!
Roeddwn i’n ffeindio cysur yn y gân Gola Ola’r Dydd ar ôl rhedeg marathon Llundain – sy’n ‘come-down song’ os glywsoch chi’r ffasiwn beth! Mae’r albym yn glasur gan gyfansoddwr o fri!
Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?
Y Tŷ (Sobin a’r Smaeliaid). Unrhyw un o ganeuon Sobin a’r Smaeliaid – mae’r rhestr yn ddiddiwedd… Meibion y Fflam, O Bell, Dal y Gannwyll, Lladd ar y Graig – mae gymaint o ddewis – ond os oes rhaid dewis un, Y Tŷ yw’r gân i mi… mae’ n ddeuawd arbennig, yn cyfleu amser penodol mewn hanes ond dal yn gân fytholwyrdd.