Y tro yma, Al Lewis sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon. Mae Al yn ganwr-gyfansoddwr, cerddor, ac artist recordio talentog a thoreithiog. Mae e wedi rhyddhau naw albwm a phump EP ers 2009 – ardderchog, un ac oll. Ar ôl i fi ddechrau dysgu Cymraeg yn 2022, ro’n i’n gwrando ar ei albymau Sawl Ffordd Allan (2009), Heulwen o Hiraeth (2014), a Pethau Bach Aur (2018). Yna, des i ar draws Battles (2013), sydd yn barod yn un o fy ffefrynnau! Rhyddhaodd Al yr albwm Ghost (2016) gyda’r artist Americanaidd Alva Leigh a’i albwm unigol diweddaraf, Fifteen Years, yn 2024.


Clawr yr albwm Fifteen Years

Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?

Mae fy merch yn hoff iawn o wrando ar Siwgr gan Eden ar hyn o bryd, felly mae gweld hi’n bloeddio canu yn ‘neud finne’n hapus hefyd! Dw i hefyd newydd ddod ar draws y gân ‘Baled’ gan fand newydd o’r enw Ffenest. Dw i’n hoff iawn o’r nawscanu gwlad’ sydd ynddi a’r defnydd o’r pedal ddur yn y gân.

Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?

Sam Cooke, A Change is Gonna Come – oherwydd neges bwysig y gân. Mae hi’n sôn am obeithion y mudiad hawliau sifil a oedd yn digwydd yn yr Unol Daleithiau ar y pryd, a’r ffordd mae Sam yn ei ganu llawn angerdd.

Bu farw Sam Cooke yn ifanc iawn, bythefnos cyn i’r sengl gael ei rhyddhau ac felly mae hynny’n ychwanegu rhyw deimlad ingol i’r gân hefyd.

Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?

You Make My Dreams Come True gan Hall & Oates. Dyma oedd dewis fi a fy ngwraig ar gyfer ein dawns gyntaf yn ein priodas ac felly mae ‘na lawer o atgofion melys yn dod i fy meddwl bob tro dw i’n clywed y gân yma, llawn gobaith a chariad.

Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?

The Best of James Taylor – dyma oedd traciau sain fy mhlentyndod, tripiau car efo Mam lawr o ogledd Cymru i Gaerdydd. Doedd ganddi hi ddim llawer o gaséts yn y car ac felly roedd rhaid i ni wrando ar yr albwm yma sawl tro’n olynol weithiau, sydd ddim yn beth drwg o bell ffordd!

Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?

God Only Knows gan The Beach Boys – perffeithrwydd! Mae’r alaw yn berffaith. Ar un gwrandawiad mae hi’n swnio’n syml ond eto mae rhywun yn sylweddoli mae’r gerddoriaeth sy’n ei chyfeilio hi yn hynod o aeddfed a chymhleth. Harmonïau gwych a chynhyrchiant diddorol. O flaen ei hamser ac yn dal i swnio’n dda hyd at heddiw.

www.allewismusic.com